STANTON, CHARLES BUTT (1873 - 1946), aelod seneddol dros Ferthyr ac Aberdâr, 1915-1922

Enw: Charles Butt Stanton
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1946
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Huw Morris-Jones

Ganwyd Aberaman, Aberdâr, 7 Ebrill 1873. Pan adawodd yr ysgol bu'n was bach gyda theulu ym Mhen-y-bont-ar-ogwr, ond yn ddiweddarach aeth i'r lofa yn ei dref enedigol. Daeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod streic yr haliers yn 1893 pan gyhuddwyd ef o danio gwn yn un o'r ysgarmesoedd rhwng y glowyr a'r heddlu. Fe'i cafwyd yn euog o feddu gwn heb drwydded a'i ddedfrydu i chwe mis o garchar. Bu'n amlwg drachefn yn streic y glowyr yn 1898 ac yn streic y docwyr yn Llundain yr un flwyddyn, oblegid aeth yno i chwilio am waith pan gaewyd glofeydd Aberdâr. Daeth adref a bu'n un o'r rhai a sefydlodd gangen leol y Blaid Lafur Annibynnol yn 1900 ac a wahoddodd Keir Hardie i fod yn ymgeisydd ac ennill y sedd yn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno. O 1903 hyd at 1908 bu Stanton yn aelod o gyngor tref Aberdâr. Pan fu Hardie farw yn 1915 etholwyd Stanton yn aelod seneddol yn ei le yn yr is-etholiad. Safodd fel un pleidiol i bolisi'r weinyddiaeth ar y pryd yn y rhyfel yn erbyn yr Almaen. Gwrthwynebwyd ef gan James Winstone, llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ail-etholwyd Stanton yn etholiad cyffredinol 1918 pan drechodd y Parch. T. E. Nicholas , yr ymgeisydd pasiffistaidd. Gwnaed Stanton yn Uwch-gwnstabl Meisgyn Uchaf yn 1919-20, ac yn 1920 derbyniodd y C.B.E. Yn etholiad 1922 trechwyd ef gan G. H. Hall, ymgeisydd swyddogol y Blaid Lafur. Bu fyw weddill ei oes yn Hampstead. Yr oedd yn wr urddasol ei olwg ac yn ystod y dauddegau a'r tridegau bu'n actio mewn nifer o ffilmiau, yn rhyfedd ddigon, a chofio'i gefndir, yn actio rhannau aristocratiaid a chlerigwyr. Yr oedd yn briod a chanddo ddau fab; lladdwyd un yn 1917. Bu farw yn Llundain, 6 Rhagfyr 1946.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.