Ganwyd yng Nghasnewydd, Mynwy, 3 Hydref 1874. Ychydig a wyddys am ei fywyd cynnar ond iddo gael addysg yn ysgolion cenedlaethol Casnewydd a dechrau gweithio'n naw oed fel gwas bach mewn siop fferyllydd. Aeth wedyn i lanhau peiriannau ar y rheilffordd yng Nghasnewydd ac yna yn 1878 symudodd i Swindon i weithio fel taniwr peiriannau ac ar ôl hynny fel gyrrwr trenau. Yma dechreuodd ymddiddori yn yr undeb llafur ac etholwyd ef yn aelod o gyngor y dref lle y cafodd brofiad gwerthfawr mewn materion cyhoeddus. Bu'n llywydd ei undeb, sef Cymdeithas Unedig Gweision y Rheilffyrdd (yr A.S.R.S.), 1905-6. Bu'n drefnydd gyda'r undeb ar ôl hyn ym Manceinion ac wedyn yn ne Cymru.
Yn 1910, oblegid ei anghytundeb â phenderfyniad yr undeb i gefnogi'r Blaid Lafur, rhoddodd Richard Bell ei le fel ysgrifennydd yr undeb i fyny a'i swydd fel aelod seneddol dros Derby. Penodwyd J. H. Thomas yn ysgrifennydd cynorthwyol yr undeb ac yn aelod seneddol yn etholaeth Bell yn Derby. Daliodd y sedd hon am 26 mlynedd. Yn 1911 bu'n gyfrwng i setlo streic rheilffordd yn Lerpwl a threfnodd i uno nifer o fan undebau gyda'r A.S.R.S. i ffurfio Undeb Cenedlaethol y Rheilffyrdd, a bu'n ysgrifennydd cyffredinol iddo, 1918-1924.
Yn ystod Rhyfel 1914-1918 cefnogodd y mudiad ricriwtio ac ymwelodd â'r Unol Daleithiau yn 1917 fel aelod o genhadaeth Balfour. Yn yr un flwyddyn etholwyd ef i'r Cyngor Cyfrin. Ar ôl y rhyfel, bu cryn gynnwrf ac anniddigrwydd ymhlith y gweithwyr, a bu streiciau difrifol ar y rheilffyrdd. Llwyddodd Thomas, modd bynnag, i gael dyblu cyflogau ei aelodau a chytuno i gysylltu eu henillion gyda chôst byw. Yn 1920 a 1921 bu'n flaenllaw gydag ymdrech lwyddiannus gweithwyr y rheilffyrdd a thrafnidiaeth a'r glowyr i rwystro ymyrraeth filwrol yn erbyn y llywodraeth Sofiet yn Rwsia. Yn 1924 ffurfiwyd y llywodraeth Lafur gyntaf a phenodwyd Thomas yn ysgrifennydd y trefedigaethau. Er mai am amser prin y bu yn y swydd hon ymwelodd â threfedigaethau'r gorllewin, ac ar ôl hyn bu ganddo ddiddordeb dwfn mewn materion yn ymwneud â hwy.
Yr oedd yn aelod o bwyllgor gwaith Cyngres yr Undebau Llafur pan fu'n gyfrifol ym mis Mai 1926 am alw am streic gyffredinol o'i holl aelodau. Yr oedd y sefyllfa'n beryglus ond trwy ddylanwad cymedrol Thomas daeth y streic i ben ac ail-agorwyd trafodaeth gyda'r llywodraeth. Gwrthwynebodd y glowyr hyn a buont hwy ar streic am fisoedd wedyn.
Yn 1929 ffurfiwyd yr ail lywodraeth Lafur a gwnaed Thomas yn Arglwydd y Sêl Gyfrin gyda chyfrifoldeb arbennig i drefnu gwaith i'r miloedd lawer o ddynion diwaith a oedd yn bod yn y wlad ar y pryd. Yn y gobaith o feithrin masnach rhwng gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig â'i gilydd aeth i Ganada. Canlyniad hyn oedd trefnu'r Gynhadledd Economaidd Imperialaidd a ffrwyth honno oedd cytundebau Ottawa a gododd y tollau ar nwyddau a brynid oddiallan i'r ymerodraeth. Er ei ymdrechion dal i gynyddu a wnaeth nifer y diwaith ym Mhrydain ac yn 1930 aeth i swydd newydd gweinidog y dominiynau ac yn ôl i ysgrifenyddiaeth y trefedigaethau yn 1935. Yn 1931 gwaethygodd yr argyfwng economaidd a bu anghytundeb oddi mewn i'r Blaid Lafur ynglŷn â'r mesurau angenrheidiol i'w gyfarfod. Penderfynodd y Prif Weinidog, Ramsay MacDonald, ffurfio llywodraeth yn cynnwys aelodau o'r prif bleidiau seneddol. Safodd Thomas gyda'r Prif Weinidog a chadwodd ei le fel ysgrifennydd y dominiynau. Ond bu hyn yn foddion i greu teimlad chwerw iawn oddi mewn i'w undeb a di-swyddwyd ef fel ysgrifennydd cyffredinol a dilewyd ei aelodaeth. Ar y llaw arall cadwodd ei sedd wleidyddol yn Derby yn etholiadau 1931 a 1935. Beirniadwyd ef yn llymach yn ei flynyddoedd olaf gan y rhai y bu'n gynrychiolydd iddynt ar hyd ei oes nag a wnaed gan ei hen elynion gwleidyddol. Yn 1936 bu raid iddo ymddiswyddo o'r Tŷ Cyffredin oblegid ei gyhuddo o gyhoeddi rhan o gynnwys y Gyllideb cyn ei chyflwyno i'r Tŷ.
Yr oedd J. H. Thomas yn un o wŷr cymedrol y mudiad llafur a'i ddawn bennaf oedd arwain trafodaeth a chymodi mewn cynnen. Efe oedd llywydd ffederasiwn ryngwladol yr undebau llafur o 1920 i 1924. Derbyniodd raddau anrhydeddus o Gaer grawnt (LL.D.) yn 1920 ac o Rydychen (D.C.L.) yn 1926. Yr oedd yn ustus heddwch dros sir Gaint ac yn un o lywodraethwyr coleg Dulwich. Ysgrifennodd When Labour Rules (1920) a My Story (1937).
Priododd Agnes Hill o Gasnewydd yn 1898 a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw yn Llundain 21 Ionawr 1949.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.