THOMAS, JOHN (1857 - 1944), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1944
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 25 Mehefin 1857 ym Maes-teg, Sir Forgannwg. Wedi i'r glöwr anafus hwn ddechrau pregethu (gyda'r Saeson) aeth i academi Richards yn Aber-afan, ac yn 1881 i goleg Pontypŵl. Enillodd ysgoloriaeth (30p.) yng ngholeg y Brifysgol, Bangor, a chafodd ysgoloriaeth Arglwydd Penrhyn (50p.) ddiwedd y flwyddyn. Ym Mangor daeth o dan gyfaredd Henry Jones, a chyfeirir ato fel disgybl disglair yn Old Memories, 176. Graddiodd yn B.A., ac M.A., Prifysgol Llundain. Gweinidogaethodd yn Saledine Nook, Huddersfield, 1887-93, Myrtle Street, Lerpwl, 1893-1914, a Sutton, 1915-20. Bu'n athro pregethyddiaeth yn athrofa Manceinion, a rhoddai wersi, wedi ymddeol, yn y coleg Beiblaidd, Abertawe. Medrai bregethu'n Gymraeg, ond yn Saesneg yr oedd yn rheng flaenaf goreugwyr Lloegr. Cyhoeddodd gyfrolau o'i bregethau, cyfrolau ar lyfrau Moses ac athroniaeth, a chyfrolau o'i farddoniaeth - The Iris and other poems, Psyche and other Poems, Caniadau John Garth (yr unig un yn Gymraeg). Bu farw 20 Medi 1944, a chladdwyd ef yng Ngorseinon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.