WADE, GEORGE WOOSUNG (1858 - 1941), clerigwr, athro, ac awdur

Enw: George Woosung Wade
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1941
Priod: Rachel Elinor Wade (née Joyce)
Rhiant: Joseph Henry Wade
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, athro, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 16 Awst 1858 yn China, mab Joseph Henry Wade, Shanghai, a'i addysgu yn ysgol Trefynwy a choleg Oriel, Rhydychen, lle'r ydoedd yn ysgolor. Enillodd glod yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf yn y clasuron (1879) ac yn yr ail ddosbarth yn yr arholiad terfynol (1882). Gwnaed ef yn ddiacon yn 1885 a derbyniodd urddau offeiriad yn 1886. Bu'n gurad Basing, swydd Southampton, am dair blynedd, ac yn 1888 penodwyd ef yn athro Lladin yng ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Bu yno am bedair blynedd a deugain, gan ymddeol o'i gadair a swydd athro hynaf yn 1932. Priododd Rachel Elinor, merch y Parch. F. H. Joyce, a chwaer Gilbert Cunningham Joyce, esgob Mynwy Yn 1934 derbyniodd radd Doethur mewn Diwinyddiaeth, er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru, ac yr oedd hefyd yn ganon yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Bu farw yn Nhrefynwy 15 Hydref 1941, a'i gladdu yno.

Ac yntau'n athro yng ngholeg Dewi Sant am ddeugain mlynedd a mwy, bu gan Wade ddylanwad mawr ar genedlaethau o fyfyrwyr, ac felly drwyddynt ar yr Eglwys yng Nghymru. Wrth ddysgu rhoddai bwys mawr ar drylwyredd, ac ar undod pob gwybodaeth. Mewn neges at ei fyfyrwyr wrth ffarwelio â hwynt mynegodd ei hyder y byddai iddynt fyth gynyddu mewn gwybodaeth a gwir dduwioldeb.

Cynhyrchodd nifer mawr o lyfrau (gweler rhestr yn Who's Who). Yn eu plith gellir enwi ei lyfr ar Hanes yr Hen Destament, a aeth i ddeuddegfed argraffiad erbyn 1934 : llyfr cyffelyb ar y Testament Newydd, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1922 : esboniadau ar lyfr Genesis, ail lyfr Samuel, a'r rhan fwyaf o'r Proffwydi Bychain: a llyfr ar ddogfennau'r Testament Newydd, a gyhoeddwyd yn 1934. Yr oedd ganddo hefyd ddiddordeb yn naear Cymru a'r siroedd cyfagos, a chyhoeddwyd llyfrau o'i waith (ar y cyd) ar Dde Cymru, ar Sir Fynwy, ar Wlad yr Haf, ac ar Swydd Henffordd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.