Coffeir y sant hwn yn Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin. Yn ôl achrestrau'r cyfnod canol diweddar yr oedd yn fab i Sant Cyngar ap Garthog ap Ceredig ap Cunedda Wledig. Dethlid ei wyl ar 25 Gorffennaf, yn ôl yr hen ddull. Heddiw cynhelir y ffair yn gysylltiedig â'i wyl ar 5 a 6 Awst yn Llangyndeyrn. Ni ddylid cymysgu rhwng ei dad, Cyngar, a'r sant Cyngar / Docwin / Dochau.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.