EVANS, THOMAS (1739-1803), ac EVANS, THOMAS (1742-1784), dau lyfrwerthwr o Lundain a goffeir yn y D.N.B.

Enw: Thomas Evans
Dyddiad geni: 1739
Dyddiad marw: 1803
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dau lyfrwerthwr o Lundain a goffeir yn y D.N.B.
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Y mae Thomas Evans, yr hynaf, yn enwog am iddo ymladd ag Oliver Goldsmith (1773). Disgrifir ef gan amlaf fel 'a Welshman ', a dywedir yn y D.N.B. iddo gael ei eni yng Nghymru. Ni ellir cadarnhau hyn, fodd bynnag, oni chymerir fel prawf y ffaith fod Goldsmith wedi gorfod talu £50 i gronfa elusennol Gymreig (hwyrach i'r ysgolion elusennol Cymreig).

Ni elwir Thomas Evans, yr ieuaf, yn Gymro yn bendant yn unrhyw fan, er iddo, yn 1774, gyhoeddi argraffiad newydd o waith William Wynne, History of Wales. Pan gofir mai yn y Strand yr oedd canolfan ei fasnach, hwyrach y tueddir i'w gysylltu â'r 'Thomas Evans, Strand' a oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1778. Derbyniwyd ef yn aelod y pryd hwnnw am fod ei dad yn Gymro. Awgryma hyn nad yng Nghymru y ganed ef ei hun.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.