EVANS, WILLIAM (1800 - 1880), emynydd

Enw: William Evans
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1880
Priod: Margaret Evans (née Meyler)
Rhiant: Sarah Evans (née Bevan)
Rhiant: Thomas Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd 1 Hydref 1800 yn bedwaredd mab i Thomas Evans, Pen-y-Feidr, plwy Trefgarn Fawr, Sir Benfro, a'i wraig, Sarah (Bevan) o Felin Martel. Yr oedd Thomas Evans (1756 - 1837) yn flaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Wood-stock, a phan oedd yn ifanc bu'n arwain Williams Pantycelyn ar hyd y sir. Tua thair wythnos o ysgol ddyddiol a gafodd William Evans. Ymunodd ag eglwys Fethodistaidd yr Hall c. 1820-1, ac yn ddiweddarach codwyd ef yn flaenor yno. Daeth yn brydydd pur dda, a chyfansoddodd emynau — un ohonynt yn parhau i gael lle yn rhai o'n llyfrau emynau. Yr oedd yn gerddor medrus hefyd; cyfansoddodd ganiadau a thonau, ac ymroes i ddysgu eraill. Ar un adeg bu'n cynnal ysgol gân yn Abergwaun, Trefîn, a Thyddewi. Y mae nifer o ysgrifau a thonau o'i waith ar gael gan ei ddisgynyddion. Llafuriodd gyda'r Ysgol Sul; a chyfansoddodd lawer o ‘bynciau’ at ei gwasanaeth.

Priododd â Margaret (bu farw 28 Rhagfyr 1879), unig ferch William Meyler o'r Ford 11 Ebrill 1826, ac aeth i'r Ford i fyw. Yn 1851 prynodd dyddyn yn Nhreamlod ac yn 1857 rhoes heibio ei waith fel cigydd a mynd i Dreamlod i fyw. Gan fod Treamlod tua dwy filltir o Gapel Woodstock adeiladodd William Evans dŷ yn y pentref a'i roi'n gyfan gwbl at wasanaeth crefydd. Wedi ei farw ef yr adeiladwyd capel yno. Bu farw 2 Ebrill 1880, a chladdwyd ef gyda'i briod ym mynwent Capel y Ford. Bu iddynt ddau fab a saith merch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/