brodor o Riwabon a dystiodd na chafodd unrhyw addysg ffurfiol. Ceir detholiad o'i faledi a'i garolau yn Cynulliad Barddorion i Gantorion sef Carolau, Cerddi, ac Englynion, cyfrol o farddoniaeth a olygodd ef ac a gyhoeddwyd yn 1790. A barnu oddi wrth y cerddi hyn profodd dlodi mawr yn ei ddydd, bu'n dda ganddo ar dro gael derbyn nawdd teuluoedd Myddelton o Gastell y Waun, a Llwydiaid Trefor. Mae'n amheus mai ef a gyfieithodd i'r Gymraeg ran o lyfr y Dr. John Gill Exposition of the Revelation of St. John fel y dywedir yn Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, iii, 67.
Yn ôl NLW MS 325E (39) 'roedd dros ei 80 mlwydd oed pan fu farw tua diwedd 1803, ond yn ôl cofnodion swyddogol Esgobaeth Llanelwy ar 10 Mawrth 1806 y claddwyd ef o'r elusendy yn Rhiwabon.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.