Ganwyd 10 Gorffennaf 1831, yn Modedern, Môn, yn fab i Hugh a Jane Jones. Prentisiwyd ef yn grydd yn 14 oed gyda Lewis Prichard ym Modedern, symudodd oddi yno yn 17 oed i Lanfachraeth i weithio yn yr un alwedigaeth gyda John Roberts, Bedyddiwr o ran ei syniadau ac yn byw yn ymyl capel y Bedyddwyr. Derbyniodd Hugh Jones syniadau ei feistr; fe'i bedyddiwyd yn 1850, a dechreuodd bregethu yn 20 oed. Ym mis Tachwedd 1851 pregethodd ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Yn ei awydd am ychwaneg o addysg cyn mynd ymlaen am y weinidogaeth aeth am ychydig amser i ysgol yn Llanrhyddlad ac oddi yno yn 1853 i athrofa Hwlffordd am 4 blynedd. Ei fwriad i gychwyn oedd mynd yn genhadwr, ond darbwyllwyd ef i roddi heibio'r syniad hwnnw, ac o ganlyniad derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Gymraeg Llandudno, a chafodd ei ordeinio yn Awst 1857. Yn Rhagfyr 1858 priododd â Catherine, unig ferch John Hughes, Tŵr, Llangollen, a bu iddynt 13 o blant. Yn Hydref 1859 derbyniodd alwad eglwysi Llangollen a Glyndyfrdwy i gydweinidogaethu â'r Dr. J. Prichard. Dyma'r amser y bu'n olygydd Y Greal. Agorwyd athrofa'r Bedyddwyr yn Llangollen yn 1862 a phenodwyd Hugh Jones yn athro clasurol. Dilynodd y Dr. Pritchard fel prifathro'r coleg bum mlynedd yn ddiweddarach ar ei ymddiswyddiad. Yn 1877 cymhellwyd ef er lles i'w iechyd i fynd ar daith i'r cyfandir, a bu yn yr Yswistir a'r Eidal am 3 mis. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir Y Beibl a'i Ddehongliad, Darlith ar y Bedydd Cristionogol (1862), Y Weithred o Fedyddio (1863), Eglwys Crist (1876), a llu mawr o erthyglau a phregethau yn Y Greal, Yr Athraw, Traethodydd, Seren Gomer, Baptist, Baptist Magazine, &c. Ystyrid ef yn un o gewri'r enwad fel pregethwr, bugail, ac athro yn ei ddydd. Bu farw 28 Mai 1883, a chladdwyd ym mynwent y Fron, Llangollen.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.