JONES, JOHN (1777 - 1842), Ystrad, gwleidydd

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1842
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd yn 38 Stryd y Brenin, Caerfyrddin, 15 Medi 1777, mab Thomas Jones, cyfreithiwr, o Ffynnon Job a Chapel Dewi, ac ŵyr Thomas Jones, R.N. Addysgwyd ef yn Eton a choleg Eglwys Crist, Rhydychen, a gwnaed ef yn fargyfreithiwr o Lincoln's Inn yn 1803. Daeth yn brif gyfreithiwr cylchdaith de Cymru ac yn gofiadur Cydweli. Bu'n ymgeisydd aflwyddiannus am sedd bwrdeistref Caerfyrddin yn erbyn cynrychiolydd teulu Cawdor yn 1812, ond ar farwolaeth y Cadfridog Picton yn 1815, etholwyd ef yn aelod dros fwrdeistrefi Penfro, sedd a ddaliodd hyd 1818. Yn y flwyddyn honno bu'n aflwyddiannus eto mewn cais i ennill sedd bwrdeistref Caerfyrddin, ond pan ddyrchafwyd ei wrthwynebydd ar yr achlysur hwnnw i fod yn Iarll Cawdor yn 1821, cafodd yr oruchafiaeth ar yr ymgeisydd Whigaidd, Syr William Paxton, ac etholwyd ef drachefn yn 1826 ac 1830. Ef oedd arweinydd y gwrthwynebiad yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1830 i gynnig yr Arglwydd Cawdor i ddileu llysoedd y Sesiwn Fawr. Yn etholiad Ebrill 1831 anafwyd ef yn y terfysg a fu yng Nghaerfyrddin. Anwybyddwyd yr etholiad hwn, ond ym mis Awst yn yr un flwyddyn etholwyd ef unwaith eto. Ar 22 Hydref dilynol ymladdwyd duel rhyngddo ef a R. F. Greville, yr ymgeisydd aflwyddiannus am sedd sir Benfro, yn Nhafarn-sbeit. Er na ddisgwylid hynny, pleidleisiodd dros y Mesur Diwygio, ond collodd ei sedd i ymgeisydd Whigaidd yn 1832, ac yn 1835 methodd yn ei gais i ennill sedd y sir. Etholwyd ef yn aelod dros y sir yn 1837, a chadwodd ei sedd yn 1841. Bu farw 12 Tachwedd 1842. Yr oedd yn ddibriod, yn Gymro Cymraeg, ac yn boblogaidd iawn. Adnabyddid ef yn lleol fel ' Jones yr Halen ' oherwydd ei ymdrechion i ddileu'r dreth ar halen. Disgrifiwyd ef fel ' Tori mewn gwleidyddiaeth, ond Rhyddfrydwr yn ei fywyd personol'. Ceir cofeb iddo yn eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin. Nid oes sail i'r gred mai ar ei ôl ef yr enwyd Johnstown, maestref Caerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.