JONES, JOHN EDWARD ('Iorwerth Twrog ' 1886 - 1934), ysgolfeistr, bardd, a datgeiniad gyda'r tannau

Enw: John Edward Jones
Ffugenw: Iorwerth Twrog
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1934
Rhiant: Kate Jones
Rhiant: John Ellis Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, bardd, a datgeiniad gyda'r tannau
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn hen Dŷ'r Ysgol, Maentwrog, Sir Feirionnydd, 12 Mai 1886. Mab i John Ellis a Kate Jones. Yr oedd ei dad yn gerddor da, ac am hanner canrif yn organydd Eglwys Maentwrog. Cafodd ' J.E. ' fel yr adwaenid ef trwy Gymru, ei addysg yn ysgol Maentwrog, a bu yn ddisgybl-athro yno. Yn 1905 symudodd i Gorris, ac oddi yno i Aber-carn, Sir Fynwy. Aeth am gwrs o addysg i goleg hyfforddi athrawon ym Mryste, ac wedi hynny gwasanaethodd fel ysgolfeistr yng Nghaernarfon, Llanilltud Faerdref (Morgannwg), Llanwddyn, Arddleen, ac ysgol Oakley Park, Llanidloes, Trefaldwyn. Ymunodd â'r fyddin yn Rhyfel mawr 1914-18, ac wedi dychwelyd yn ôl, aeth i'r Bont, Llanbrynmair, ac oddi yno i Bennal, Sir Feirionnydd, gan breswylio yn y Tŷ Coch, Aberdyfi, ac yno y treuliodd y chwe blynedd olaf o'i fywyd. Yr oedd yn ysgolfeistr rhagorol, yn llenor da, ac yn fardd gwych. Enillodd gadair eisteddfod Dinas Mawddwy, Groglith 1934, a'r un adeg gadair Llanuwchllyn a Phont-rhyd-y-groes. Daeth yn enwog fel datgeiniad gyda'r tannau, a gwyddai am holl gyfrinion y gelfyddyd. Yr oedd ei chwaeth yn bur, meddai ar lais da, ac ynganai yn eglur. Trwy ei ddull syml, tawel, a diymdrech, enillai ddeall a chalon ei wrandawyr, a rhoddodd fri ac urddas ar y gelfyddyd. Bu'n feirniad yn yr eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd lawer o wobrwyon. Yn 1922 ysgrifennodd ddeuddeg o wersi rhagorol ar ganu penillion yn Y Winllan a chyhoeddwyd hwynt gan Adran Athrawon Meirionnydd yn llyfr dan yr enw Swyn y Tannau, yn cynnwys hefyd osodiadau J. E. Jones gyda nodiadau gan Mr. J. Breese Davies ac ysgrif goffa gan y Parch. Evan Roberts. Aeth i Ysbyty Tywyn, Meirionnydd am driniaeth feddygol ac yno y bu farw 13 Awst 1934, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Maentwrog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.