DAVIES, JOHN BREESE (1893 - 1940), llenor, cerddor ac arbenigwr ym maes cerdd dant

Enw: John Breese Davies
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1940
Rhiant: Elisabeth Davies (née Breese)
Rhiant: Thomas Tegwyn Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor, cerddor ac arbenigwr ym maes cerdd dant
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Iorwerth Cyfeiliog Peate

Ganwyd 22 Chwefror 1893 yn y Gwynfryn, Dinas Mawddwy, Meirionnydd, yn fab i Thomas Tegwyn Davies , awdur Dinas Mawddwy a'i hamgylchoedd (1893). Yr oedd ei fam, Elisabeth, yn hanfod o deulu Breesiaid Llanbryn-mair. Fe'i haddysgwyd yn ysgol elfennol Dinas Mawddwy ac am gyfnod yn ysgol ramadeg Dolgellau pryd y goddiweddwyd ef gan afiechyd a'i cadwodd yn orweiddiog am bum mlynedd a'i adael am weddill ei oes yn gloff o'i glun. Yn ystod y pum mlynedd darllenodd yn helaeth gan ymgydnabod nid yn unig â hanes a llên Cymru ond hefyd ag ieithoedd a llên gwledydd eraill. Yn y cyfnod hwn, ymwelodd Syr Owen M. Edwards ag ef a'i annog i ysgrifennu i'w gylchgrawn, Cymru. Ufuddhaodd, a pharhau ar hyd ei oes i gyfoethogi llên ei genedl, a'r un pryd i'w ddiwyllio'i hun trwy fynychu ysgolion haf yng Nghymru a Lloegr a dosbarth allanol Coleg Aberystwyth yn y Dinas. Trigai gyda'i chwaer ym Minllyn, Dinas Mawddwy (lle y cadwent siop), a buont ill dau yn gynheiliaid diwyd i ddiwylliant eu bro.

Ond fel llenor, ond odid, yr enillodd yr amlygrwydd mwyaf, gan sgrifennu'n ddyfal i'n prif gyfnodolion. Gellir nodi ei gyfraniad i Geninen 1924, ar R. J. Derfel, a'i ysgrifau yn y Cymru (O.M.E.) ar ' Emrys ap Iwan ' (1923) ac ar ' Alun ' (1924), ynghyd a llawer o ysgrifau yn Yr Eurgrawn a'r Cerddor. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt yn y gyfrol Ysgrifau John Breese Davies ym 1949. Fel llenor, meddai ar arddull raenus, medrusrwydd celfydd, cynildeb ymadrodd a chyfoeth o rinweddau'r gwir ysgolhaig. Ef ydoedd ysgrifennydd pwyllgor llên yr Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth yn 1937, ac y mae ei ysgrif ar fro Ddyfi fel rhagymadrodd i restr testunau'r eisteddfod honno yn gampwaith o'i bath. Er hynny, ei gampwaith eisteddfodol pennaf oedd mynnu sefydlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol o 1938 ymlaen gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. Llafuriodd yr un mor galed, fel athro, beirniad ac arweinydd, i sefydlu'r safonau uchaf posibl i'r canu gyda'r tannau, a gweithiodd yn galed i ennill ei hawliau iddi yn yr eisteddfod genedlaethol. Edrychid arno ef a J. E. Jones fel cymwynaswyr pennaf eu dydd yn y maes hwn. Yr oedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Cerdd Dant ac yn olygydd ei chylchgrawn, Allwedd y tannau, o'r rhifyn cyntaf hyd 1940. Fel y gellid disgwyl, yr oedd yn amlwg ym mywyd ei fro - yn aelod o gyngor sir Feirionnydd, yn un o noddwyr pennaf addysg y sir - addysg ysgol ac addysg pobl mewn oed, yn gadeirydd llywodraethwyr ysgol ramadeg Dolgellau, yn llywydd ac yn ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Dyffryn Dyfi ac yn oruchwyliwr cylchdaith Fethodistaidd Dinas Mawddwy. Bu farw 4 Hydref 1940. Yr oedd yn wr eithriadol hoffus, ac yn enghraifft dda o'r diwylliant Cymreig ar ei lefel uchaf.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.