Ganed Thomas Tegwyn Davies ar 11 Tachwedd 1851, yn y Ty Gwyn, Abercywarch, yn fab i Hugh ac Elizabeth Davies. Yr oedd ei wraig, Elisabeth, yn hanfod o deulu Breesiaid Llanbryn-mair, a'i fab John Breese Davies yn arbenigwr ym maes cerdd dant.
Teiliwr oedd wrth ei alwedigaeth; ymhlith y tai y gweithiai ynddynt (yn ôl yr hen arfer) yr oedd rheithordy Llan-ym-Mawddwy yng nghyfnod D. Silvan Evans; symbylodd ' Silvan ' lawer ar ei lengarwch. Tyfodd yn gasglwr llyfrau ac yn llenor; sgrifennai'n helaeth i gyfnodolion fel yr Eurgrawn, Y Traethodydd, a Cymru (O.M.E.); ac yn 1893 cyhoeddodd lyfr, Dinas Mawddwy a'i Hamgylchoedd. Bu farw yn Ninas Mawddwy ar 10 Rhagfyr 1924.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.