JONES, JOHN OWEN ('Ap Ffarmwr ', 1861 - 1899), newyddiadurwr

Enw: John Owen Jones
Ffugenw: ap Ffarmwr
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1899
Rhiant: Emma Jones
Rhiant: Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Frank Price Jones

Mab i Owen ac Emma Jones, ganwyd yn Ty'n y Morfa, Trefdraeth, Môn, ddydd Calan 1861. Wedi marw'i dad, ac i'w fam ail-briodi, symudodd y teulu i fyw i Gae'r Llechau, Dwyran, Môn (tua 1865). Cafodd ei addysg yn Ysgol y Bwrdd, Dwyran. Yn 14 oed, fe'i rhwymwyd yn brentis gyda Lewis Lewis, draper, y 'Nelson', Caernarfon. Yn y cyfnod hwn, darllenai yn helaeth waith awduron fel Darwin, Huxley, Ruskin a Carlyle, ac aeth i ysgol Mr. Kirk yn y dref. Oddi yno, aeth i goleg Aberystwyth am dair blynedd, ac am flwyddyn wedyn i goleg Owens, Manceinion. Bu wedyn am gyfnod yn 'Ohebydd Llundain' i'r Genedl Gymreig a'r North Wales Observer and Express.

Dychwelodd o Lundain i gadw ysgol yn Nwyran a pharhau i ysgrifennu i'r wasg : ceir erthyglau ganddo ar amryw bynciau yn y North Wales Observer and Express, y Werin, y Genedl, a'r Cymro yn ystod 1883-95, ac yn y Geninen 1891, 1892 a 1897.

Yn 1891 penodwyd ef yn is-olygydd y papurau a gyhoeddwyd gan y Wasg Genedlaethol Gymreig yng Nghaernarfon. Symudodd i Ferthyr Tudful yn 1895 i olygu'r Merthyr Times, ac yn 1897 aeth i Nottingham yn ysgrifennydd erthyglau arweiniol y Nottingham Daily Express (gweler o dan Edwards, David). Yn y cyfnod hwn, ysgrifennodd Cofiant Gladstone (Caernarfon 1898). Bu farw yn Nottingham 2 Mawrth 1899 a'i gladdu ym mynwent y Methodistiaid, Dwyran, 7 Mawrth. Codwyd cofeb ar ei fedd yn 1902 gyda chymorth rhoddion gweision ffermydd Môn.

Fel yr awgryma ei ffugenw, cymerai ddiddordeb mawr mewn materion amaethyddol, ac fe'i cofir yn arbennig am ei gyfraniad tuag at wella amodau gwaith gweision ffermydd Môn. Fel newyddiadurwr, ysgrifennai ar amryw bynciau, gan gynnwys cyfres o erthyglau effeithiol iawn ar gyflwr yr eglwys sefydledig yng Nghymru wledig. Ond wedi dychwelyd o Lundain i Ddwyran, ymddiddorodd yn arbennig yng nghyflwr y gweision amaethyddol, a chyhoeddodd gyfres o erthyglau ar y testun hwn yn y North Wales Observer & Express. Cyhoeddodd fersiwn Cymraeg yn y Werin, papur dimai a ddatblygodd yn brif ladmerydd achos y gweision hyn. Ar ôl cynnal nifer o gyfarfodydd i geisio gostwng oriau gwaith ar y tir, cafwyd cynhadledd yn Llangefni, ddydd Llun y Pasg, 1890, a llwyddwyd i gael lleihâd o ddwy awr y dydd. Cynhaliwyd cynhadledd debyg yn Llangefni 2 Mai 1891, a cheisiwyd, yn aflwyddiannus, ffurfio undeb gweithwyr amaethyddol. Er hyn, mynnai'r gweithwyr ddatgan eu gwerthfawrogiad o waith 'Ap Ffarmwr', ac mewn cyfarfod mawr arall yn Llangefni, 11 Mai 1893, anrhegwyd ef â wats aur. Yn y cyfarfod hwn pasiwyd i ffurfio undeb amaethyddol i Fôn, a gofyn i 'Ap Ffarmwr' gymryd yr arweiniad yn y gwaith. Ni ddaeth dim o hyn oherwydd gwrthwynebiad y ffermwyr, amharodrwydd y gweision i dalu eu cyfraniadau, ac efallai oherwydd i Ap Ffarmwr symud i Ferthyr cyn cyflawni'r gorchwyl. Ceir datganiad clir o'i syniadau ef am y rhan y dylai'r gweithwyr ei gymryd mewn gwleidyddiaeth yn Y Cymro 31 Gorffennaf 1890. (Gweler ymhellach o dan David Edwards.)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.