Ganwyd 11 Ebrill 1858. Bu'n brentis yn swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon, ac yna yn aelod o staff y Liverpool Daily Post. Dychwelodd i Gaernarfon fel rheolwr y grwp papurau a oedd yn gysylltiedig â'r North Wales Observer, 1884-91. O 1891 hyd 1897 ef oedd rheolwr-olygydd y Nottingham Daily Express a'r Evening News a berthynai iddo. Bu'n rheolwr cynorthwyol y London Daily News, 1897-1901, ac yn olygydd a rheolwr, 1901-2. Dychwelodd i Nottingham a bu'n olygydd a rheolwr-gyfarwyddwr yr Express a'r Evening News o 1908 hyd ei farwolaeth, 22 Chwefror 1916. Dylid ychwanegu at y crynodeb uchod (a godwyd o Who Was Who) y ffaith mai ef a R. A. Griffith a J. Owen Jones oedd awduron ffugenwol The Welsh Pulpit… by a Scribe, a Pharisee, and a Lawyer, 1894. Edwards oedd y 'Scribe'.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.