Ganwyd 10 Chwefror 1839, yn fab i John a Jane Jones, Pen-lôn, Pwllheli. Pan yn 13 oed dechreuodd weithio mewn swyddfa cyfreithiwr ym Mhorthmadoc, ac yn 1867 gorffennodd ei hyfforddiant fel cyfreithiwr. Bu wedi hyn yn gofrestrydd llys sirol ym Mhorthmadog a Ffestiniog, ac yn glerc tref Cricieth. Ceidwadwr oedd yn wleidyddol, ac Annibynnwr o ran crefydd. Gwyddys amdano yn bennaf, fodd bynnag, fel bardd. Yr oedd ar ei orau mewn darnau byrion, yn enwedig mewn dychangerddi. Enillodd dychangerdd o'i waith wobr yn eisteddfod genedlaethol Y Rhyl yn 1892. Yr oedd yn feistr hefyd ar yr englyn. Cyhoeddwyd llawer o'i farddoniaeth mewn cylchgronau, ond yn ôl pob tebyg erys llawer o'i waith heb ei gyhoeddi oherwydd ei natur 'rabelaisaidd'. Pan yn ieuanc yr oedd yn aelod o'r cylch llenyddol a ymgasglodd oddi amgylch i Ellis Owen o Gefn-y-meysydd. Yn 1881 casglodd a chyhoeddodd farddoniaeth Ioan Madog. Bu farw 22 Hydref 1916, a chladdwyd ef ym mynwent Deneio, Pwllheli.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.