Aeth i seminari Valladolid yn 1649. Ordeiniwyd ef yn offeiriad ar 7 Mehefin 1653, a danfonwyd ef i Loegr ar 17 Ebrill 1654. Ni wyddys ddim yn bendant am ei fywyd am bron chwarter canrif wedi hyn, ond gellir casglu o'r dystiolaeth a ddygwyd yn ei erbyn iddo ymweled â chartrefi Walter James, Tre-ivor, Mynwy, a Howel Carne, Tregolwyn, Morgannwg, yn ogystal ag ardal Llandyfodwg, Morgannwg. Yn ystod cynnwrf Cynllwyn Titus Oates aed ag ef i'r ddalfa ar 20 Tach 1678, o dŷ Mr. Turberville, Pen-llîn, Morgannwg. Carcharwyd ef yng ngharchar Caerdydd gyda'r Tad Philip Evans, S. J.. A gydag ef dedfrydwyd yntau i farwolaeth ar 9 Mai 1679; fe'i dienyddiwyd ar 22 Gorffennaf 1679.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.