Ganwyd yn Sir Fynwy. Ei dad oedd William Evans, a'i fam oedd Winifred Morgan, o bosibl o Lanfihangel Crucornau. Addysgwyd ef yn St. Omer ac ymaelododd â Chymdeithas yr Iesu ar 8 Medi 1665. Ordeiniwyd ef yn 1675, a'i ddanfon i genhadaeth yr Iesiwitiaid yn ne Cymru. Yn ôl y bradwr Edward Turberville ymwelodd â Chastell Powys; ond canolfan ei weithgarwch oedd sir ei enedigaeth a Morgannwg. Bu ar ymweliad â Charles Proger yn Wern-ddu, Llandeilo Gresynni; ac yn ei brawf daeth tystion o Lanfihangel Crucornau a Llangatwg ger Caerllion. Tan yr enw 'Capten Evans' arhosodd gyda Thomas Gunter, Y Fenni, a phregethu yn Gymraeg yn ei gapel yn Cross Street, lle, meddid, yr â cannoedd i'r Offeren, pan na cheir 40 i'r Eglwys' (100's goe to Mass there when not 40 goe to Church.) Ym Morgannwg ymwelodd â'r Pîl a thai Howel Carne (aelod o deulu Nash), a Christopher Turberville yn Y Sger. Daliwyd ef ar 2 Rhagfyr 1678, yn Y Sger, wedi i John Arnold gynnig £50 o wobr am ei ddal, yn y cynnwrf cyffredinol a ganlynodd ddadleniadau Titus Oates. Carcharwyd ef yng nghastell Caerdydd gyda'r Tad John Lloyd. Profwyd y ddau offeiriad yn neuadd y sir, ddydd Iau a dydd Gwener, 8 a 9 Mai, 1679, gan y barnwr Owen Wynne, Melai. Condemniwyd hwy i farwolaeth, dan ddeddf 27 Elis. am fod yn offeiriaid seminaraidd; ond aeth bron dri mis heibio cyn y dienyddio. Yn ystod y tymor hwn caniateid cryn ryddid i'r offeiriaid, a ducpwyd rhybudd o'r dienyddiad i'r Tad Evans pan oedd yn chwarae tennis ger Eglwys S. Ioan. Y mae ar gof a chadw ei ebychiad: 'Pa frys sydd? Gadewch i mi orffen fy chwarae yn gyntaf.' A hefyd ei eiriau oddi ar yr ysgol i'r dienyddle: 'Yn wir, dyma'r pulpud gorau i ddyn bregethu ohono'. Dychwelodd i'r carchar a chanu gyda'r tannau i'w gyfeiliant ei hun ar y delyn, fel y dengys argrafflen gyfoes. Ysgrifennodd lythyr, a argreffir yn Foley, at ei chwaer Catherine, a oedd yn lleian las ym Mharis. Crogwyd, diberfeddwyd a chwarterwyd ef ar 22 Gorffennaf 1679, oed 34. Y mae darlun ohono yn Foley; ac yn 1929, lluniwyd ffenestr liw i goffáu'r ddau offeiriad yn Eglwys S. Pedr, Caerdydd, i ddathlu'u gwynfydedigo gan y Pab.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.