PROGER (PROGERS, PRODGER,)

Cainc o'r Herbertiaid, fel yr honnent - yn Blome, List of Gentry, 1673, chwanegir y cyfenw ' Herbert ' at enwau amryw o'r gŵr a enwir isod. Eu hendre oedd y Wern-ddu yn Llandeilo'r-berth-olau (y tu allan i'r Fenni) sir Fynwy, a chysylltir cainc iau ohonynt â Gwernvale ('tir Gronw Foel ' yw'r enw yn y 14eg ganrif) gerllaw Cerrighywel ym Mrycheiniog. Adroddir achau'r teulu gan Theophilus Jones, G. T. Clark, a J. A. Bradney; gwrthdery'r tri mewn mannau, ond gan fod Theophilus Jones yn dibynnu ar H. T. Payne, a bod gan hwnnw gasgliad helaeth o lythyrau ac o weithredoedd cyfreithiol, diogelach yw ei ddilyn ef lle y bo anghydweld.

I. CAINC y WERN-DDU.

Cychwynnwn ni yma gyda WILLIAM PROGER, y chweched yn y llinach, a oedd yn fyw yn 1483. Meibion iddo ef oedd JOHN PROGER a Lewis Proger (gweler dan II); a mab i John Proger oedd WILLIAM PROGER, a oedd yn aelod seneddol dros sir Fynwy yn Senedd 1588 (nid 1585, fel y dywed Clark - gweler Williams, Parl. Hist.). Cafodd William Proger ddau fab, DAVID PROGER a Philip Proger (gweler dan II). ŵyr i David Proger oedd y cyrnol CHARLES PROGER, 'of the Guards,' y bu'n rhaid iddo dalu £330 am gael ei stad yn ôl yn herwydd pleidio'r brenin yn y Rhyfel Cartrefol; tebyg (er nad yw'n sicr) mai ef oedd y 'Col. Progers' a fu'n gyfrannog yn y gwaith o adennill Trefynwy i'r brenin yn 1644 (J. R. Phillips, Civil War in Wales, ii, 217); yr oedd yn was ystafell i Siarl II yn 1673 - na chymysger ef â'r Charles Proger a enwir dan II. Gyda'i orŵyr ef, WILLIAM PROGER, a werthodd y Wern-ddu ac a fu farw, tua 1780, heb adael ond merch a oedd yn lleian, diflanna'r gainc hon o'r teulu.

II. CAINC GWERN -VALE, fwy diddorol.

Bu Gwern-vale ym meddiant amryw deuluoedd. Yn 1530 prynwyd y plas a hanner y tiroedd gan Feredydd ap Meredydd ap Morgan ap Dafydd Gam. Darfu llinach y Meredyddiaid mewn aeres, Elizabeth; priododd hi (yn ôl Theophilus Jones a Bradney) â LEWIS PROGER, ail fab y William Proger a enwyd dan I. Dilynwyd Lewis Proger gan ei fab EDWARD PROGER, a mab hwnnw, WROTH PROGER, a werthodd Wern-vale (1668) i'r Syr Henry Proger yr ymhelaethir arno isod. Mab oedd hwnnw i PHILIP PROGER, ail fab William Proger, A.S. (gweler dan I). Yr oedd Philip Proger yn ' equerry ' i'r brenin Iago I, a chafodd bensiwn o £50 yn 1625. Cafodd bedwar mab, ill pedwar yn Freniniaethwyr eithafol, ac ill pedwar yn Gatholigion. Nid ydys yn gytûn ar eu trefn amseryddol; yma dilynir Theophilus Jones :

(1) Syr HENRY PROGER (bu farw 1686),

(y gŵr a brynodd Wern-vale gan Wroth Proger (uchod) yn 1668. Gellid meddwl mai ef oedd y ' Lieut. Progers ' a oedd yng nghastell Rhaglan pan ddarostyngwyd hwnnw gan Fairfax yn 1664 (Phillips, op. cit., ii, 323). Ffoes wedyn i Sbaen, ac yr oedd ym Madrid yng ngosgordd Cottington a Hyde (Clarendon wedyn) pan oedd y rheini'n llysgenhadon yno. Yn 1650 anfonodd Cromwell gennad o'r enw Ascham i Fadrid, a llofruddiwyd hwnnw gan rai o'r Breniniaethwyr; yr oedd Henry Proger yn un ohonynt, ond achubodd ef ei ben gan lochesu yn nhŷ llysgennad Fenis, a dianc oddi yno i Ffrainc. Wedi'r Adferiad, urddwyd ef yn farchog. Preswyliai yng Ngwern-vale ar ysbeidiau, ond yn Llundain gan amlaf, ac yn Llundain y bu farw - profwyd ei ewyllys yn 1686. Afradlon oedd ei fab, CHARLES PROGER, a gwerthodd ef stad Gwern-vale i'w ewythr Edward (isod).

(2) VALENTINE PROGER - ' Capt. Valentine Progers '

yn y rhestr o garcharorion Rhaglan; enwir yntau gan James Howell fel un o lofruddion Ascham, gan chwanegu ei fod ' in close prison.' Ni wyddys ddim am ei yrfa wedyn.

(3) JAMES PROGER - ' corp. Jas. Progers '

yn rhestr Rhaglan - fe welir bod dau, onid tri, o'r brodyr yno. Aeth yntau i Sbaen; y mae llythyr gan Cottington at Edward Proger (1651) yn tystio bod James yn dda iawn ei fyd yn Sbaen, ond yn barod i daeru ag undyn mai Cymru oedd y wlad orau. Cafodd ddychwelyd i Gymru, a chlywir ddiwethaf amdano'n geidwad castell y Fenni, yn 1665.

(4) EDWARD PROGER (1618 - 1714),

yr enwocaf o'r teulu - os enwogrwydd hefyd. Yn ôl Clark, ef oedd yr ail fab, ond y mae popeth yn awgrymu (gyda Theophilus Jones) mai'r ieuengaf oll oedd ef; ganwyd yn 1618, a dygwyd ef i fyny'n facwy (page) i Iago I. Penodwyd ef yn was ystafell i'r tywysog ifanc Siarl (Siarl II), a bu'n gydymaith mynwesol iddo am faith flynyddoedd; cyfeiriai Siarl ato fel ' Ned Proger,' ac yr oedd gan H. T. Payne gryn nifer o lythyrau gan Siarl ato, a llythyrau ato gan fawrion (megis y tywysog Rupert) a dybiai'n amlwg fod gan Proger ddylanwad mawr ar ei feistr. Yr oedd gyda Siarl yn Sgotland yn 1650, ond mynnodd y Sgotiaid ganddo adael y wlad, ' gan fod ei ddylanwad ar y brenin yn ddrwg '; cyfranogodd o alltudiaeth Siarl yn Ffrainc, a dengys cyfeiriad damweiniol yn Pepys iddo fod rywdro yn Sbaen hefyd. Ar ôl 1660, gwenai ffawd arno: gwir mai lledrithiol oedd rhai o'r 'ffafrau' a gafodd (megis y 'rhodd' o diroedd eang yn Virginia, na chafodd erioed afael arnynt), eto, ar ben ei gyflog o £500 fel gwas ystafell, yr oedd yn geidwad Hampton Court (a thŷ iddo yno), yn fforestwr Bushey Park, yn geidwad y plas brenhinol yng Nghaerefrog, etc. Nid oedd er hynny'n fawr ei barch, oblegid y mae'n weddol eglur mai ei brif orchwyl oedd porthi chwantau'r brenin; cyfeiria Grammont (Memoirs, arg. Bullen, ii, 37) ato fel ' the confidant of his intrigues '; rhigymai'r dug Buckingham yn wawdus arno; dywedodd gŵr difri wrth Pepys fod Proger yn un o'r rhai a oedd ' yn arwain y brenin ar gyfeiliorn '; a rhydd Andrew Marvell ergyd iddo yn y 11. 173-5 o'i ' Last Instruction to a Painter.' Bu'n aelod seneddol dros sir Frycheiniog o 1662 hyd 1679. Dirywiodd ei amgylchiadau ar ôl marw Siarl, a chwyna wrth y frenhines Anne fod ei gyflog heb ei thalu ers blynyddoedd; ond cafodd bensiwn o £200 yn 1702 fel ' the oldest servant of the Crown now alive.' Bu farw 31 Rhagfyr 1713 neu 1 Ionawr 1714, o anhwylder anghyffredin iawn, sef torri pedwar daint newydd ac yntau'n 96 oed. O'i blant, tair merch a'i goroesodd; yr hynaf, Philippa, a gafodd ei diroedd ym Mrycheiniog; priododd hi (1717) â'r clerigwr a'r llenor nid anniddorol Samuel Croxall, y mae ysgrif arno yn y D.N.B. Bu Croxall yn byw o dro i dro yng Ngwern-vale, ac ailadeiladodd y tŷ.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.