Ganwyd Awst 1843 ym Mhentre mawr, Abertawe. Addysgwyd ef yn ysgol y gwaith copr yn yr Hafod, Abertawe. Wedi gadael yr ysgol, bu'n gweithio yng ngwaith haearn y Millbrook, Abertawe. Yn 1867 penodwyd ef yn glerc yn y gwasanaeth sifil yn ei dref enedigol, ac yn 1872 trosglwyddwyd ef yn yr un gwasanaeth i Grimsby. Yn 1875 dychwelodd i Abertawe, a dechrau busnes ar ei liwt ei hun. Yn 1879 sefydlodd ef ac eraill waith sinc Cwm Tawe yn Llansamlet, yn 1881 waith dur Birch Grove, ac yn 1884 prynu gwaith alcam Ynys-penllwch. Y mae'r gwaith sinc ar fynd hyd heddiw, a bu a wnelo Syr Richard ag ef hyd ei farw.
Yn 1884 daeth yn aelod o gorfforaeth Abertawe, a bu'n aelod a henadur o 1884 i 1910, ac yn faer y dref yn 1898-9. Bu'n gadeirydd y pwyllgor addysg am chwe blynedd. Bu'n bybyr iawn i geisio cael coleg prifysgol y de i Abertawe, ond Caerdydd a ddewiswyd. Yna llwyddodd i gael ysgol dechnegol i'w dref, a daeth yr ysgol hon wedyn yn goleg technegol. Bu Syr Richard, gyda chymorth Syr Isambard Owen yn ceisio cael cydnabod y coleg technegol yn un o golegau Prifysgol Cymru, ond ni lwyddodd. Pan godwyd Comisiwn Brenhinol, o dan lywyddiaeth yr Arglwydd Haldane, i ymchwilio i gwestiwn addysg prifysgol yng Nghymru (1916-18), aeth Syr Richard ati ar unwaith i gael coleg prifysgol i Abertawe gyda phwyslais arbennig ar yr ochr dechnegol, a thystiodd dros y syniad yn bersonol ger bron y Comisiwn. Gymaint yr argraff a wnaed ar y Comisiwn, fel y cymeradwywyd codi'r cyfryw goleg. Sefydlwyd y coleg yn 1920, a phan osodwyd y garreg sylfaen gan y brenin Siôr V, galwodd ar Syr Richard ymlaen a'i wneud yn farchog yn rhinwedd ei ymdrechion maith dros addysg yn Abertawe. Heblaw sicrhau coleg prifysgol i'w dref, ef oedd yr un a lwyddodd i godi coleg hyfforddi athrawon ar ystad Glan-môr. Ymdrechodd yn ddyfal ac aberthodd ei amser a'i adnoddau yn helaeth er lles Abertawe a Chymru. Bu farw'n sydyn yn Llundain 11 Medi 1922, a'i gladdu ym mynwent Ystum Llwynarth, Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.