OWEN, Syr ISAMBARD (1850 - 1927), ysgolhaig o feddyg, a saernïwr prifysgolion

Enw: Isambard Owen
Dyddiad geni: 1850
Dyddiad marw: 1927
Priod: Ethel Owen (née Holland-Thomas)
Rhiant: William George Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig o feddyg, a saernïwr prifysgolion
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yng Nghasgwent 28 Rhagfyr 1850, i William George Owen, peiriannydd o fri, disgybl i Isambard Brunel, ac un o brif ddynion y G.W.R. Aeth i ysgolion Caerloyw a Rossall, graddio yng Nghaergrawnt (1872), a throi at astudiadau meddygol yn ysbyty S. George's, Llundain, lle y tyfodd yn awdur ac arbenigwr, yn ddarlithydd, deon, a cheidwad yr amgueddfa, a myned mor bell â chyfleu cynllun i sefydlu prifysgol feddygol newydd yn Llundain fel protest yn erbyn arafwch adweithiol Prifysgol Llundain ar y pryd. Daeth yn gyfaill mawr i Joseph Edwards y cerflunydd ac i'r tywysog Lucien Bonaparte; enwyd ef fel un o'r ysgutorion yn ewyllys olaf y ddau ŵr enwog. Ymunodd Isambard Owen yn gynnar iawn â bywyd Cymreig y brifddinas; yr oedd ar y blaen gydag ail-ddeffro Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1873, ac yn enwedig gyda'r achosion da yr ymddiddorai'r gymdeithas ynddynt, sef cael lle mwy amlwg i'r Gymraeg yn ysgolion Cymru, a rhoddi hwb ymlaen i'r drychfeddwl o gael ysgolion canolradd i'r Dywysogaeth. Rhoddodd dystiolaeth dros Gymru o flaen comisiwn addysg 1886-7, ac ef oedd ysgrifennydd cynhadledd Amwythig (5 a 6 Ionawr 1888) a wnaeth lawer i osod i lawr seiliau safadwy Mesur 1889. Yr oedd yn un o brif ddynion y ‘Society for the Utilisation of the Welsh Language’; dyna sy'n cyfrif am ei edmygedd mawr o Dan Isaac Davies, a'i gyfeillgarwch agos ag ef.

Nid oedd neb amlycach nag Isambard Owen gyda dechreuadau Prifysgol Cymru, fel y prawf amlinell fras cynllun 1891, memorandwm cyflawnach 1892, a'i ran flaenllaw yng nghynadleddau Amwythig (Ionawr a Chwefror 1893), yn y rhai y cytunwyd ar brif bwyntiau siarter y brifysgol (gwnaed llawer o'r gwaith cyfreithiol gan ei frawd Charles Maynard Owen). Pan sefydlwyd y brifysgol yn 1894, gydag arglwydd Aberdâr yn ganghellor cyntaf, Isambard Owen oedd ei ddirprwy, ac yn gyfrifol am ben trymaf y dyletswyddau; daliodd yn ‘Senior Deputy Chancellor’ tan 1910. Cofia pawb sy'n cofio'r cyfnod hwn am ei olwg urddasol, ei lais persain treiddgar, a Lladiniaith goeth y geiriau seremonïol. Purion cofio ei wahodd i fod yn brifathro Coleg Caerdydd ar ôl marw Viriamu Jones a'r ffaith mai ef (yn ôl Syr Harry Reichel) bioedd y syniad o gyfaddasu adeilad mawreddog Coleg Bangor at lethrau creigiog Penrallt, ac nid gwastatáu'r tir i dderbyn yr adeilad. Yn 1904 penodwyd ef yn brifathro Coleg Armstrong, Newcastle-on-Tyne, ac o 1909 i 1921 bu'n is-ganghellor Prifysgol Bryste; y mae iddo le anrhydeddus effeithiol yn hanes y ddau sefydliad. Urddwyd ef yn farchog yn 1902, yn Ll.D. gan Brifysgolion Cymru (1911) a Bryste (1912), ac yn D.C.L. gan Brifysgol Durham (1905). Priododd, 1905, ag Ethel Holland-Thomas, o Gae'r Ffynnon, ger Talsarnau, a chawsant ddwy ferch. Bu farw ym Mharis ar 14 Ionawr 1927, a chladdwyd ef yng Nglanadda, Bangor, ar 2 Chwefror. [Ei enw llawn oedd Herbert Isambard Owen.]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/