MORGAN, WILLIAM (JOHN) ('Penfro'; 1846 - 1918), clerigwr, eisteddfodwr, ac emynydd

Enw: William (John) Morgan
Ffugenw: Penfro
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1918
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, eisteddfodwr, ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 14 Rhagfyr 1846 yn Nyfer, Sir Benfro. Symudodd ei dad, David Morgan, yn fuan i Lanfihangel-penbedw, ac oddi yno i Foncath, a bu'n glerc y plwyf ac arweinydd y gân yn y ddau le. Addysgwyd y mab, a oedd yn gerddorol fel ei dad, yn ysgol ramadeg Aberteifi, ac yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan (B.A., 1871). Ordeiniwyd ef yn 1871, a thrwyddedwyd ef yn gurad Llanrwst, lle y daeth i gysylltiad agos nid yn unig â'r englynwr enwog, Trebor Mai, ond hefyd â'r gŵr hynod hwnnw, Gwilym Cowlyd. Mynychai 'wrth' eisteddfodau Gwilym Cowlyd ar lannau llyn Geirionydd; yn wir, ni ddaeth Penfro fyth i deimlo'n gartrefol yn y 'wir' eisteddfod genedlaethol, er iddo fod yn amlwg yn ddiweddarach yn eisteddfod daleithiol Powys. O 1875 hyd 1878 bu'n gurad yn Llanelwy, lle yr enillodd beth enwogrwydd fel pregethwr. Yn 1878 penodwyd ef yn ficer Pennant, Sir Drefaldwyn, yn 1887 yn ficer Llansantffraid (Glan Conwy), ac yn olaf, yn 1904, yn rheithor Manafon, Sir Drefaldwyn, lle y bu farw 23 Mehefin 1918. Coffeir ef yno gan garreg fedd a chofeb. Yr oedd yn ŵr priod, a bu ei wraig a dau o'u pedwar plentyn farw o'i flaen. Yr oedd yn fardd toreithiog, ond cofir ef yn bennaf heddiw am ei emynau. Cyhoeddwyd cyfrol goffa Penfro; Cyfrol Goffa, yn cynnwys barddoniaeth a bywgraffiad byr, yn Nolgellau yn 1924.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.