POWELL, THOMAS (1779? - 1863), perchennog pyllau glo

Enw: Thomas Powell
Dyddiad geni: 1779?
Dyddiad marw: 1863
Priod: Ann Marples (née Williams)
Priod: Ann Powell (née Hardwick)
Priod: Mary Powell (née Pearce)
Rhiant: John Powell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog pyllau glo
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 6 Ionawr 1779 (meddai Bradney) yn Nhrefynwy, mab i John Powell. Dechreuodd ei yrfa fel masnachwr coed yng Nghasnewydd, ond wedyn ehangodd gylch ei ddiddordeb i gynnwys y fasnach lo. Prynodd yn gyntaf waith glo bychan rhwng Llanhiledd ac Aber-bîg. Yn 1829 suddodd ddwy siafft 112 llath o ddyfnder yng Ngelli-gaer yn costio £15,000, a darganfu wythïen lo yn agos i chwe troedfedd o drwch. Yn 1833 ceisiodd Powell ganiatâd i weithio glo dan fferm a oedd yn eiddo i Syr Charles Morgan o'r enw ' Place Bedwellty ', ac a ffiniai ar waith glo o'r eiddo ef yn Buttery Hatch, ond methasant gytuno. Mewn canlyniad i'r cais hwn, daethpwyd ag achos yn erbyn Powell ym mrawdlys sir Fynwy yn 1841, a dirwywyd ef i dalu £1,420. 1. 0. o iawndal i Syr Charles am weithio'r glo hwn o'i bwll yn Buttery Hatch heb ganiatâd. Apeliwyd yn erbyn y ddedfryd, a gostyngwyd rhyw gymaint ar yr iawndal. Yn 1833 sefydlodd Powell ynghyd â Thomas Prothero o Falpas, a ddaliai gysylltiad busnes agos ag ef, a hefyd John Latch o Gasnewydd y Newport Coal Association i reoli prisiau. Hwn oedd y 'cylch glo' cyntaf yn Ne Cymru, ond byr fu ei barhâd. Yn 1840 bwriadodd anturio ym maes y glo ager yng Nghwm Aberdâr. Suddodd ei bwll cyntaf yn Nhir Ffounder; yn 1842 trawodd ar y wythïen enwog bedair troedfedd. Ar ôl y fenter lwyddiannus hon suddodd byllau'r Plough, Lower Duffryn, Middle Duffryn ac Upper a Lower Cwm Pennar. Trwy gyfrwng John Nixon sicrhaodd werthiant cyson i'w lo yn Ffrainc, ond, fel yr oedd yn nodweddiadol o Powell, bu helynt ynglŷn â'r comisiwn. Cafodd Powell farchnadoedd a gynyddai'n gyflym iawn o herwydd y duedd i ddefnyddio llongau ager fwy-fwy yn lle llongau hwylio a'r ffaith fod y llynges yn dewis llosgi glo ager di-lwch de Cymru. Sylweddolodd yn gynnar iawn werth y rheilffyrdd yn natblygiad y diwydiant glo, ac yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr ' Rheilffyrdd y Taff Vale a sir Fynwy '. Mewn cyfnod pryd yr oedd yn anarferol iawn i un dyn fod yn berchen ar ragor nag un pwll glo, y mae Powell yn sefyll allan o herwydd graddfa eang ei fusnes. Nid digon ganddo oedd y llwyddiant syfrdanol yng Nghwm Aberdâr, lle y ceisiodd fonopoli, ond agorodd nifer o byllau bach yn Llanilltud Faerdref i ddiwallu anghenion y fasnach lo tai, ac yn ddiweddarach suddodd bwll mawr yn Nhredegar Newydd. Bu'n berchen 16 o byllau, ac yn 1862, pan allforiodd fwy na 700,000 o dunelli o lo, ef, yn ôl pob tebyg, oedd yr allforiwr glo mwyaf yn y byd. Bu farw yn ei gartref, Y Gaer, ger Casnewydd, 24 Mawrth 1863. Yn ôl Copïau'r Esgob o gofrestr Basaleg, yr oedd yn 83 mlwydd oed. Os yw'r cofnod hwn yn gywir, y mae blwyddyn ei eni a roddwyd gan Bradney yn anghywir.

Bu Powell yn briod deirgwaith. (1) â Mary Pearce, a ddug iddo un ferch (2) ag Anne Hardwick o Westbury, a ddug iddo ddwy ferch, a (3) ag Anne, merch Walter Williams o Fryste, gweddw George Marples, llawfeddyg o Lundain, a ddug iddo dri mab, a ddaeth yn bartneriaid gydag ef. Yn anffodus, bu'r tri farw mewn amgylchiadau trist.

Yn 1864 ffurfiodd Sir George Elliot y Powell Duffryn Steam Coal Co. â chyfalaf o £500,000 er mwyn cymryd drosodd y gweithfeydd glo ager yng nghymoedd Aberdâr a Rhymni a lefel White Rose yn Nhredegyr Newydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.