ELLIOT, Syr GEORGE (1815 - 1893), BARWNIG, perchennog a datblygydd glofeydd

Enw: George Elliot
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1893
Priod: Margaret Elliot (née Green)
Plentyn: George William Elliot
Rhiant: Elizabeth Elliot (née Braithwaite)
Rhiant: Ralph Elliot
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: BARWNIG, perchennog a datblygydd glofeydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: David Leslie Davies

Ganwyd yn Penshaw, Gateshead, swydd Durham, ym mis Mawrth neu Fehefin 1815 yn un o chwe phlentyn Ralph Elliot, is-reolwr pwll glo Whitefield, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Braithwaite). Yn 9 oed dechreuodd weithio 14 awr y dydd dan ddaear. Yn 19 oed aeth fel disgybl addawol i swyddfa Thomas Sopwith, archwiliwr tanddaearol yn Newcastle-upon-Tyne, gan ddychwelyd i Whitefield ymhen chwe mis a dod yn ‘overman’. Yn 1837 gwnaed ef yn is-reolwr glofa Monkswearmouth, Sunderland, pwll dyfnaf Lloegr ar y pryd, ac yn rheolwr yn 1839.

Yn 1840 prynodd mewn partneriaeth bwll Washington, ac yn 1843 ei bwll cyntaf ar ei liwt ei hun yn Usworth, ac un Whitefield yn 1864. Fe'i penodwyd yn 1851 yn brif ymgynghorydd a pheiriannydd mwyngloddau Ardalydd Londonderry ym maes glo Durham. Wedi ymddiswyddo tuag 1860 prynodd gwmni Kuper & Co., Gateshead, gwneuthurwyr gwifrau diwydiannol a fu ar fin methu yn 1849. Aeth i bartneriaeth â Richard Glass, dyfeisydd gorchudd gwifrau tanfor, i ail-greu'r cwmni yn Glass & Elliot, neu o 1864 y Telegraph Construction & Maintenance Co., y cwmni a gynhyrchodd y gwifrau tanfor cyntaf rhwng Ewrop ac America (1866), a'r India ac Awstralia.

Dyma'r cyfnod y mentrodd i faes glo de Cymru. Bu'n gyfrifol yn 1864 am godi partneriaeth o Saeson ac Albanwyr a brynodd am £365,000 holl lofeydd y diweddar Thomas Powell o'r Gaer, Casnewydd, oddi wrth ei feibion, a sefydlu'r Powell Duffryn Steam Coal Co. a dyfodd yn gwmni glo mwyaf de Cymru cyn ei wladoli yn 1947. Daeth rhyw 16 pwll ym Morgannwg a Mynwy o feddiant teulu Powell i ddwylo'r cwmni newydd, ac ni chollodd Elliot gyfle i ymestyn a phrynu glofeydd gerllaw Aberdâr. Wrth brynu glofa gyfoethog a gwaith haearn Crawshay Bailey (Bywg., 19-20) yn y gymdogaeth cafodd Powell Duffryn afael ar gnewyllyn hen ystad Mathewiaid Aberaman, cangen o deulu hynafol Radur a Llandaf a oedd yn uchelwyr yr ardal cyn eu difodiant yn 1788. Yno, yn eu plasdy (a adnewyddwyd yn helaeth gan bwrcaswr cynharach, Anthony Bacon II, Bywg., 18), yr ymgartrefodd Elliot yn ysbeidiol; ac yno, ar ôl ei ddyddiau, y creodd Powell Duffryn eu pencadlys.

Aeth cwmni Powell Duffryn yn ei flaen dan arweiniad Elliot a'i olynwyr a sicrhau glofeydd pellach yng nghwm Aberdâr, a phyllau eraill yng nghwm Rhymni. Bu'r cwmni hefyd yn datblygu rheilffyrdd yng nghymoedd Aberdâr a Rhymni er hybu allforion, a gweithfeydd golosg, trydan a nwy. Yn 1920 cafodd P.D. feddiant ar hen Gwmni Haearn Rhymni, a'i ystad eang, a phrynodd y cwmni filoedd o erwau yn ardal Llantrisant. Bu busnes tramor y cwmni gymaint erbyn 1914 nes sefydlu cangen gyfandirol, y Compagnie Francaise des Mines Powell Duffryn. Llifodd y twf o weledigaeth ac egni Elliot. Ef oedd rheolwr gweithredol y cwmni, 1864-77 ac 1880-88; a'r cadeirydd, 1886-89. Enwyd Elliotstown, cwm Rhymni, ar ei ôl, a strydoedd er cof amdano ef a'i wraig yn Aberaman. Er cof am ei wraig talodd am eglwys newydd yno yn 1882-83, a gwaddolodd eglwys newydd yn Whitby, Durham, yn 1886.

Eithr ni fu heb wrthwynebiad. Bu ymddiriedolwyr Ardalydd Bute yn gyndyn i ganiatáu iddo bopeth a geisiai, ac felly cymerodd ddiddordeb yn natblygiad dociau Casnewydd er osgoi eu gafael ar Gaerdydd. Ef oedd prif hyrwyddwr doc gogleddol Alexandra yng Nghasnewydd a agorwyd yn 1875 ac a roes sail i dwf diweddarach y dref; a chafodd awdurdod seneddol i osod yn ystod 1878-83 y Pontypridd, Caerphilly & Newport Railway i'w wasanaethu ag allforion glo. Bu'n frwd dros ddyfodol y diwydiant glo tan y diwedd. Tri mis cyn ei farw cyhoeddodd gynllun ar gyfer ymddiriedolaeth i feddu ar holl adnoddau'r diwydiant ym Mhrydain, gyda'r perchnogion yn meddu ar y siarau ond yn rhannu eu helw â'r gweithwyr ac â chronfa yswiriant.

Bu Elliot yn ffigur cyhoeddus amlwg hefyd. Bu'n A.S. (C) dros Ogledd Durham 1868-80 ac 1881-85; a thros Drefynwy, 1886-92. Yr oedd yn Dori wrth fodd calon Disraeli, ac yn 1874 fe'i gwnaed yn farwnig am ei wasanaeth i'w blaid ac am ei ‘fywyd defnyddiol’. Rhannai'r ddau ddiddordeb yn yr Aifft. Bu Elliot yno yn 1874 ac 1875-76 yn cynllunio rheilffyrdd ac yn ymgynghorydd cyllidol i lywodraeth simsan y Khedive. Yn 1878 aeth yn swyddogol i archwilio Ynys Cyprus wedi i Dwrci ei hildio i Brydain. Bu'n ddirprwy-raglaw siroedd Durham a Mynwy ac yn ynad dros Durham, Mynwy a Morgannwg. Yn 1882 cafodd radd D.C.L. er anrhydedd gan Brifysgol Durham, ac ef oedd llywydd yr Association of Mining Engineers. Noddai sefydliadau addysg a'r eglwys Anglicanaidd yng ngogledd Lloegr a de Cymru, a bu'n ffigur amlwg ymysg y Seiri Rhyddion. Cafodd ei benodi gan Dywysog Cymru yn Provincial Grand Master Adran Ddwyreiniol De Cymru yn Aberdâr yn 1877.

Priododd yn 1836 â Margaret Green (bu farw 1880) o Rainton, Houghton-le-Spring, Durham. Bu farw 23 Rhagfyr 1893, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Houghton. Bu iddynt ddau fab a phedair merch.

Olynwyd Syr George Elliot fel barwnig gan ei ail fab, Syr George William Elliot, yn 1893 (buasai'r mab cyntaf farw yn 1874) ac yr oedd yntau'n A.S. (C), 1874-95, pan fu farw. Aeth y teitl wedyn i'w fab yntau, Syr George Elliot, y trydydd barwnig, ac yn 1904 i'w frawd ef, Syr Charles Elliot. Difodwyd y teitl ar farwolaeth y pedwerydd barwnig yn 1911.

Gwelir tri phrif arwyddocâd yng ngyrfa Elliot. Yn gyntaf, wrth godi yn ôl ei ymdrechion ei hun o waelodion cymdeithas i'w brig cynrychiola'n drawiadol egni a hyder Oes Fictoria yn y maes diwydiannol. Yn ail, bu ganddo ran hynod bwysig yn natblygiad maes glo de Cymru, gan bersonoli ynddo'i hun y newid a fu wrth i glymbleidiau o gyfalafwyr Seisnig brynu cwmnïau a glofeydd amryw fentrwyr cynhenid Cymreig a oedd wedi eu rhagflaenu. Yn drydydd, yr oedd ei yrfa wleidyddol fel ‘self-made man’ yn enghraifft ragorol o'r Blaid Dorïaidd newydd yr oedd Disraeli am ei chreu. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ostwng oriau gwaith gweithwyr tanddaear o 12 i 9 awr y dydd a bu'n ganolwr pwysig rhwng y meistri a'r dynion yn streic fawr 1871 yn ne Cymru. Honnai yn 1874 ei fod wedi cysegru rhan helaeth o'i oes i les y dosbarth gweithiol ac eto, ni fynnai gael ei weld fel A.S. dros y dosbarth hwnnw ‘gan fod diddordebau eraill i'w cynrychioli’.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/