Ganwyd ef yn Nhalerddig, Llanbryn-mair, 19 Mawrth 1860, yn fab i Thomas Price, gof a weithiai ar y pryd ar wneud y ffordd haearn, dan David Davies (1818 - 1890 a'i wraig Jane (Howell). Ni fedyddiwyd mohono'n 'Maldwyn'; mabwysiadu'r enw'n ddiweddarach a wnaeth. Yr oedd gan ei dad lais bâs cyfoethog ac yr oedd yn enwog fel arweinydd côr. Yr oedd chwaer i Thomas ' Jenny Maldwyn ', yn enwog fel contralto. Addysgwyd Thomas (Maldwyn) yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, dan Joseph Parry, ac yn ddiweddarach yn y Royal Academy of Music, Llundain. Oddeutu 1885 daeth i'r Trallwng, Sir Drefaldwyn, yn organydd a chôr-feistr Eglwys Fair, ac yno y bu weddill ei oes. Bu farw 9 Gorffennaf 1933; claddwyd ef ym mynwent Eglwys Fair. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth eglwysig, salm-donau, emyn-donau ac anthemau. Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw'r ddau ddarn i gorau meibion ' Croesi'r Anial ' a ' Y Pysgotwyr ' a'r emyn-dôn ' St. Elizabeth '. Yn 1889 priododd ag Elizabeth (bu farw 13 Rhagfyr 1933, yn 67 oed), merch Richard a Jane Evans, Upper Boar, Llanfyllin. Ganwyd iddynt ddau fab, Richard Maldwyn Price (1890 - 1952), y cyntaf i ennill gradd Doethur mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, ac Arthur Iago Price (ganwyd 1897).
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.