THOMAS, THOMAS (1839 - 1888), gweinidog gyda'r Wesleaid ac ysgrifennwr ar bynciau amrywiol

Enw: Thomas Thomas
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1888
Rhiant: Mary Thomas
Rhiant: Owen Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Wesleaid ac ysgrifennwr ar bynciau amrywiol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1839 yng Nghaernarfon, yn un o wyth plentyn Owen a Mary Thomas. Bu'n brentis gyda Hugh Humphreys, yr argraffydd adnabyddus o Gaernarfon, ac wedi hynny bu'n gweithio mewn swyddfeydd argraffu ym Mhwllheli a de Cymru. Tra'n gweithio yng Nghaerdydd gwnaeth gais am gael ei dderbyn fel ymgeisydd am y weinidogaeth Wesleaidd - ar y cyntaf yn y maes cenhadol tramor - ond gwrthodwyd ef am resymau meddygol. Derbyniwyd ef i wasanaethu yn y wlad hon, a sefydlwyd ef yn 1862 yn Nhre'r-ddôl yng nghylchdaith Aberystwyth. Ymddengys mai pregethwr go gyffredin oedd, ond ei fod yn fugail gweithgar ac yn egnïol iawn gyda'r gwaith o sefydlu capeli. Tra'n gwasanaethu yng nghylchdaith Llanidloes sefydlodd gymaint â phum capel newydd. Ulverston oedd ei gylchdaith olaf, a bu farw yno 1 Mai 1888.

Cynhwysir ef yn y gyfrol hon oherwydd ei weithgarwch mawr yn cyhoeddi llyfrau poblogaidd. Gellir nodi tri o'r rhain yn arbennig, Llyfr Pawb ar Bob Peth (d.d.); Hynodion Hen Bregethwyr Cymru (1872); a Grammadeg Areithyddiaeth (1873). Bu gwerthu mawr ar y tri hyn. Yn y maes hwn dilynai Thomas esiampl ei gyn feistr, Hugh Humphreys. Cyfrannodd i gylchgrawn Humphreys, Golud yr Oes, 1862-4, a hefyd i gylchgronau ei enwad, Yr Eurgrawn a'r Winllan, a bu am dymor yn olygydd yr olaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.