Ganwyd 1 Mai 1801 ym Mhwll-yr-hyward (yn ôl pob tebyg Pwll-yr-hwyaid), Llan-ffwyst, sir Fynwy. Bu ei dad, o'r un enw, yn gweithio yn Abertyleri, ond dychwelodd i Lan-ffwyst i weithio yn y chwareli cerrig calch a berthynai i waith haearn Blaenafon. Ymaelododd yn eglwys y Bedyddwyr yn Llanwenarth, a phriodwyd ef yno. Bu'r mab yn cadw tafarn y 'White Hart' ym Mlaenafon, ac yna yn gweithio fel pwyswr yng ngwaith haearn Blaenau Gwent. Dychwelodd i Flaenafon (c. 1860) i gadw tafarn y ' Three Cranes '. Bu farw ei wraig, Mary (Lewis), yn y Blaenau yn 1859. Yr oedd ganddynt ddwy ferch. Bu ef ei hun farw 31 Ionawr 1889. Yr oedd yn gystadleuydd eisteddfodol brwd, ac yn un o aelodau gwreiddiol Cymreigyddion y Fenni (gweler tan Thomas Price, ' Carnhuanawc ' a than Thomas Bevan. Enillodd lawer o wobrwyon a bathodau, a chyfrannodd i Seren Gomer a'r Bedyddiwr. Gwyddys amdano orau fel awdur yr hanes plwyfol, Hanes Llanffwyst, a enillodd y wobr yn eisteddfod gyntaf y Cymreigyddion yn Y Fenni (Abergavenny), 22 Tachwedd 1834. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn 1922 tan olygyddiaeth Syr Joseph Bradney, gyda rhagymadrodd, a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell yr erthygl hon.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.