BERRY (TEULU), Arglwyddi Buckland, Camrose a Kemsley, diwydianwyr a pherchnogion papurau newyddion, o Ferthyr Tudful.

Dyrchafwyd yn arglwyddi bob un o dri mab JOHN MATHIAS BERRY (ganwyd 2 Mai 1847 yng Nghamros, Penfro; marw 9 Ionawr 1917) a'i briod Mary Ann (ganwyd Rowe, o Ddoc Penfro), a symudodd i Ferthyr Tudful yn 1874. Gweithiai J. M. Berry ar y rheilffordd ac fel cyfrifydd cyn cychwyn busnes yn 1894 fel arwerthwr a gwerthwr eiddo. Ef oedd y maer yn 1911-12 pan ymwelodd y Brenin Siôr V â'r dref. Gosodwyd carreg sylfaen adeilad newydd Byddin yr Iachawdwriaeth ym Merthyr er cof amdano yn 1936 ac er cof amdano y codwyd Coleg Technegol J. M. Berry gan ei fab hynaf.

HENRY SEYMOUR BERRY, Barwn BUCKLAND 1af (1877 - 1928), diwydiannwr Diwydiant a Busnes;

eu mab hynaf, ganwyd 17 Medi 1877 yng Ngwaelod-y-garth, Merthyr Tudful. Yn 1892 yr oedd yn fonitor yn ysgol bechgyn Abermorlais a phasiodd arholiad i fod yn ddisgybl-athro. Cafodd dystysgrif athro yn 1896 a bu ar y staff hyd 1 Medi 1897 pryd y gadawodd i weithio gyda'i dad. Yn 1915 gofynnwyd iddo gynorthwyo D. A. Thomas (Is-iarll Rhondda), a phan benodwyd hwnnw'n aelod o gabinet y llywodraeth y flwyddyn ddilynol ymddiriedodd ei gwmnïau diwydiannol niferus i ofal H.S. Berry ac o ganlyniad newidiwyd cwrs ei fywyd. Cyn pen tair blynedd daeth H.S. Berry yn gyfarwyddwr ar gynifer â 66 o gwmnïau. Gweithfeydd glo a llongau masnach oeddynt gan mwyaf, ynghyd â chwmni John Lysaght Cyf. gyda'i weithfeydd sitenni sinc, dur, glo a melinau rholio yr oedd ef, ei frawd William Ewert Berry, D.R. Llewelyn, ac Is-iarlles Rhondda (Thomas, Margaret Haig) newydd ei brynu am bum miliwn o bunnoedd, - y trosglwyddiad mwyaf yn hanes diwydiant yng Nghymru hyd hynny. Gwnaed ef yn gadeirydd y cwmni, ac yn ddirprwy gadeirydd wedi i Lysaght ddod yn rhan o Guest, Keen a Nettlefold yn 1920, cwmni y bu ef hefyd yn gadeirydd (1927) iddo. Gwnaeth lawer i ad-drefnu GKN, gan gychwyn amryw bwyllgorau rheoli, ond nid oedd yn ddyn poblogaidd iawn. Er na chymerai ran yn natganiadau cyhoeddus perchnogion y gweithfeydd glo yr oedd yn gryf yn erbyn undebau llafur. Ei brif gysylltiad â'r papurau newydd oedd fel cyfarwyddwr y Western Mail, 1920-27.

Priododd, 5 Medi 1907, â Gwladys Mary, merch hynaf Simon Sandbrook, Merthyr Tudful, a bu iddynt bum merch. Yn 1922 prynodd Buckland, Bwlch, Brycheiniog, ac aeth yno i fyw. Gwnaed ef yn ynad sir Frycheiniog yn ogystal â bwrdeistref Merthyr Tudful. Bu'n hael iawn wrth ei dref enedigol, gan roi iddi bwll nofio, cangen newydd i'r ysbyty a llawer o roddion llai i gynorthwyo gweinidogion, cyn-filwyr a thrigolion tlawd eraill. Yn 1926 addawodd ef a'i frodyr roi £750 y flwyddyn am 7 mlynedd i ysbyty Merthyr. Noddodd hefyd Goleg Coffa Aberhonddu, Coleg y Brifysgol Caerdydd, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru y penodwyd ef yn aelod o'i llys llywodraethol ychydig cyn ei farw. Derbyniodd ryddfraint bwrdeistref Merthyr Tudful yn 1923, a gwnaed ef yn Farwn cyntaf Buckland o'r Bwlch yn 1926. Bu farw 23 Mai 1928 wedi iddo syrthio oddi ar gefn ei geffyl.

WILLIAM EWERT BERRY, Is-iarll CAMROSE 1af (1879 - 1954), perchennog papurau newyddion a golygydd Llenyddiaeth ac YsgrifennuArgraffu a Chyhoeddi;

yr ail fab, ganwyd 23 Mehefin 1879. Bwriodd ei brentisiaeth fel newyddiadurwr ar y Merthyr Tydfil Times yn 1893 ac ar bapurau eraill yn ne Cymru cyn mynd i Lundain yn 1898 lle y gweithiodd fel gohebydd. Treuliodd dri mis heb waith yno ac nid anghofiodd byth mo'r profiad chwerw wrth ymdrin â'i weithwyr mewn blynyddoedd i ddod. Yn 1901, gyda benthyciad o £100 gan ei frawd hŷn, cychwynnodd Advertising World, y cyfnodolyn cyntaf o'i fath. Gofynnodd i'w frawd iau, JAMES GOMER BERRY, ddod i'w gynorthwyo gyda'r ail rifyn, gan gychwyn partneriaeth a barhaodd am dros 35 mlynedd. Yn 1905 gwerthwyd y cyfnodolyn i'w galluogi i gychwyn cwmni cyhoeddi bychan, Ewart a Seymour a'r Cwmni, Cyf. Yr un flwyddyn prynasant eu papur cyntaf, The Sunday Times, a oedd yn gwerthu ar golled ar y pryd, a bu W.E. Berry yn brif olygydd iddo, 1915-36. Yn 1924, gyda Syr E.M. (Arglwydd yn ddiweddarach) Iliffe, sefydlwyd Allied Newspapers. Eu pwrcasiad mawr nesaf oedd Amalgamated Press yn 1926, a gynhwysai nifer fawr o gylchgronau anwleidyddol, adran lyfrau, dwy wasg ac Imperial Paper Mills. Y flwyddyn ddilynol prynasant Edward Lloyd Cyf. a weithiai un o felinau papur mwyaf y byd, yn ogystal â'u papur dyddiol safonol cyntaf yn Llundain, y Daily Telegraph. Erbyn hyn rheolent 25 papur a thua 70 o gylchgronau. Bu cystadleuaeth ffyrnig yn y tridegau, ond yn lle cynnig rhoddion i ddenu darllenwyr, fel y gwnâi'r papurau eraill, penderfynwyd newid diwyg y Daily Telegraph, cadw safon eu hymdriniaeth o'r newyddion, a haneru'r pris o 2g. i geiniog; dyblodd y cylchrediad ar unwaith i 200,000 a chynyddu i dros filiwn o gopïau erbyn 1949. Yn 1937 penderfynodd y tri phartner ymwahanu, a chadwyd y Daily Telegraph, Financial Times a'r Amalgamated Press gan Arglwydd Camrose. Yr oedd yn berson urddasol yr olwg, o dymer addfwyn, yn un hawdd troi ato am gymorth, ac yn siaradwr dawnus. Cadwai gysylltiad â'i dref enedigol. Collodd ef a'i frodyr lawer o arian wrth achub pyllau glo yng nghyffiniau Merthyr Tudful rhag cau, ac yn 1936 rhoddodd ef a'i frawd ieuengaf, Is-iarll KEMSLEY 1af, dŵr cloc newydd i eglwys y plwyf. Bu'n gyfarwyddwr John Lysaght Cyf., Guest, Keen, a Nettlefold, nifer o weithfeydd glo yn ne Cymru a'r Western Mail, a daeth yn un o lywodraethwyr Coleg Crist, Aberhonddu. Yr oedd yn awdur London newspapers: their owners and controllers (1939) a British newspapers and their controllers (1947). Yn 1905 priododd Mary Agnes, merch hynaf Thomas Corns, a bu iddynt bedair merch, a phedwar mab a daethant hwythau'n gyfarwyddwyr ar rannau o fusnes y teulu. Yn 1921 gwnaed ef yn farwnig; yn 1929 yn Farwn Camrose y 1af. o Long Cross, Virginia Water, a'i ddyrchafu'n Is-iarll Camrose y 1af. o Hackwood Park, Basingstoke yn 1941. Bu farw 15 Mehefin 1954 yn Southampton; gosodwyd maen coffa iddo yn y gladdgell o dan gadeirlan S. Paul.

JAMES GOMER BERRY, Is-Iarll KEMSLEY 1af (1883 - 1968), perchennog papurau newyddion Diwydiant a BusnesArgraffu a Chyhoeddi;

y mab ieuengaf, ganwyd 7 Mai 1883. Aeth i ysgol Abermorlais ac yr oedd ymhlith y disgyblion cyntaf yn Ysgol Sir Merthyr Tudful. Ar gais ei frawd aeth i Lundain yn 18 oed i gynorthwyo gyda'r Advertising World. Fel y dywedwyd eisioes, o hynny ymlaen cydredai ei yrfa ef a'i ail frawd hyd 1937, ac fel ei frodyr, bu yntau'n gyfarwyddwr a chadeirydd llawer o gwmnïau. Pan rannwyd y fusnes, daeth Arglwydd Kemsley yn gadeirydd Allied Newspapers (a ailenwyd yn Kemsley Newspapers yn 1943). Yr oedd y grŵp yn berchen ar 26 o bapurau a chadwyd nifer eu daliadau'n lled gyson am dros 22 fl., gan ei wneud ef y perchennog mwyaf ar bapurau'r deyrnas. O'r cychwyn canolbwyntiodd Arglwydd Kemsley ei egni ar y Sunday Times, a chyn gynted ag y daeth y papur i'w ddwylo ef ei hun daeth yn brif olygydd iddo a threblodd ei gylchrediad. Yn 1947-49 rhoddodd dystiolaeth amddiffynnol rymus gerbron y comisiwn brenhinol i weithrediadau'r wasg. Ef a gychwynnodd Gynllun Golygyddol Kemsley i hyfforddi gohebwyr ac a ysgrifennodd y rhagair i The Kemsley manual of journalism (1947). Yn 1959 gwerthodd ei ddaliadau i gyd yn Kemsley Newspapers i Roy Thomson ac aeth i Monte Carlo i fyw.

Cadwai gysylltiad â'i dref enedigol, gan ddilyn ei frawd hynaf fel llywydd Ysbyty Cyffredinol Merthyr, 1928-49, a derbyn rhyddfraint y dref yn 1955; bu'n llywydd Coleg y Brifysgol Caerdydd 1945-50 a Chymdeithas Pêl-droed Cymru 1946-60. Derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgolion Cymru a Manceinion ynghŷd â llawer o anrhydeddau eraill. Priododd (1), 4 Gorffennaf 1907, Mary Lilian (a fu farw 1 Chwefror 1928) merch Horace George Holmes, Brondesbury Park, Llundain, a bu iddynt ferch a chwe mab. Priododd (2), 30 Ebrill 1931, Edith a fu'n briod â C.W. Dresselhuys. Gwnaed ef yn farwnig yn 1928, wythnos cyn marw ei wraig gyntaf, Barwn Kemsley y 1af o Farnham Royal yn 1936, ac Is-iarll Kemsley y 1af o Dropmore yn 1945. Bu farw 6 Chwefror 1968 ym Monte Carlo.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.