Ganwyd 8 Hydref 1881 yn yr Offis, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, mab Thomas ac Anne Beynon. Dechreuodd bregethu yn eglwys Soar, ac addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman, ysgol Pontypridd, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd yn B.A.), a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Ordeinwyd ef yn 1911, a bu'n bugeilio eglwys Carmel, Aber-craf, ym mhen uchaf dyffryn Tawe ar hyd ei oes (1910-53). Priododd Sarah Rebeca Thomas o Drehopcyn, ger Pontypridd, a chafwyd dwy ferch o'r briodas (un yn fabwysiedig).
Fel un o 'fechgyn' Watcyn Wyn ymddiddorodd Beynon mewn barddoni, a chyhoeddwyd un o'i bryddestau cadeiriol, Tyred, canlyn Fi, yn 1912. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1922 am ei bryddest i'r ' Tannau coll '. Ceir rhai o'i emynau i blant yn Llyfr emynau a thonau'r plant (1947). Y mae cryn gamp llenyddol ar ei ysgrifau, a gyhoeddwyd yn 1931 dan y teitl Dydd Calan ac ysgrifau eraill (ail arg. 1950); a daeth ei athrylith fel ysgrifwr i'r golwg drachefn pan oedd yn olygydd Y Drysorfa (1939-43). Cyhoeddwyd hefyd ei Detholiad o Lyfr y Salmau (1936), a ddengys yr un gelfyddyd fel llenor caboledig. Ef, a Rhys Davies (un o flaenoriaid Carmel), oedd awduron y gyfrol Hanes Carmel, Abercrâf (1921).
Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn yn y de a'r gogledd, a dotiai'r cynulleidfaoedd ar bertrwydd ei ymadroddion a'i ddywediadau bachog a disglair. Ar gyfrif hynny y mae'n siwr y penodwyd ef i draddodi'r Ddarlith Davies ar ' Y ffordd dra rhagorol ' yn 1948; ond nis cyhoeddodd. Etholwyd ef hefyd yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1952), ond bu farw, ym mlwyddyn ei lywyddiaeth, ar 12 Chwefror 1953. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Carmel, Aber-craf.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.