Ganwyd 3 Mehefin 1886 yn y Cenfu, Mynydd y Garreg, ger Cydweli, Sir Gaerfyrddin, mab William ac Elizabeth Beynon. Ar ddiwedd ei dymor yn ysgol cyngor ei ardal aeth i weithio, yn 1903, i Bontyberem, a'i dderbyn yn aelod yn eglwys Soar; yno y dechreuodd bregethu yng ngwres y diwygiad. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn, a Choleg Diwinyddol y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1916 a bu'n gweinidogaethu yn y Tabernacl, Blaengwynfi, Morgannwg (1916-33), a Horeb a Gosen ger Aberystwyth (1933-51). Priododd 1922, Eleanor Annie Whittaker, o'r Caerau, Maesteg.
Ymddiddorodd yn hanes Cymru, yn arbennig yn hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, ac ysgrifennodd yn gyson i'r Goleuad, Y Drysorfa, Y Traethodydd, ac i'r papurau lleol megis y Llanelly Mercury a'r Welsh Gazette (gweler ' Llyfryddiaeth T.B. ' yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, cyf. xlvii). Bu'n gydolygydd Y Pair, cylchgrawn y coleg, pan oedd yn y Bala, a golygodd Gylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd o 1933 hyd 1947, gan gyfrannu llawer iddo. Bu'n aelod o bwyllgor hanes ei gyfundeb o 1926 hyd ei farwolaeth, ac ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor am dymor (1930-60), a cheidwad y greirfa gyfundebol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu'n aelod hefyd o lys y Llyfrgell am lawer blwyddyn.
Ymddiddorodd yn fawr yn y 'tadau' Methodistaidd, yn enwedig Howel Harris. Bu'n lloffa'n ddyfal yn nyddiaduron Harris, gan gyhoeddi dyfyniadau helaeth ohonynt yn y cylchgrawn hanes ac yn ei lyfrau. Cyhoeddodd lyfrynnau ar hanes capel y Gyfylchi a Phontrhyd-y-fen (1926), ac eglwys y Morfa, Cydweli (1930); a chyhoeddodd gryn lawer o'i ysgrifau difyr mewn pump o gyfrolau, sef: Golud a mawl dyffryn Tywi (1936); Gwrid ar orwel ym Morgannwg (1938); Treftadaeth y Cenfu a Maes Gwenllian (1941); Cwmsêl a Chefn Sidan (1946); ac Allt Cunedda, Llechdwnni a Mwdlwscwm (1955). Cyhoeddodd y dyfyniadau a gopïodd o ddyddiaduron Trefeca yn Howell Harris, reformer and soldier (1958); Howell Harris's visits to London (1960); a Howell Harris's visits to Pembrokeshire (a gyhoeddwyd gan ei weddw yn 1966). Y mae'r cyfrolau hyn o ddefnydd mawr i'r sawl a fyn wybodaeth am hynt a helynt y diwygiwr o Drefeca. Bu farw 10 Chwefror 1961 yn ei gartref, Disgwylfa, ym Mhenparcau, Aberystwyth, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Mynydd y Garreg.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.