Ganwyd 16 Mai 1888 yng Ngwredog, Amlwch, Môn, yn fab i John Cemlyn Jones, cyfreithiwr o Gaerffili, a Gaynor Hannah, merch John Elias Jones - o Benmaenmawr a thrwy ei wraig o Wredog, Amlwch, gwr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Môn a Rhyddfrydwr selog. Collodd ei dad yn blentyn a chafodd ei addysg yn breifat yn Ysgol Mostyn, Parkgate, swydd Gaer, yn Ysgol Amwythig, ac yn Llundain. Daeth yn fargyfreithiwr. Yn 1910-11 aeth ef a'i fodryb - chwaer ei fam - ar daith o amgylch y byd, yr hen 'grand tour', trwy'r Taleithiau Unedig, Canada, Japan, Korea, Tseina, etc. 1912-14 bu'n ysgrifennydd preifat i Syr Ellis Jones Ellis-Griffith, A.S. yn y Swyddfa Gartref, a rhwng 1914-18 gwasanaethodd fel capten gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus yn Ne Croydon 1923 ac ym Mrycheiniog a Maesyfed 1929.
Gwasanaethodd ar lu o bwyllgorau a chyrff cyhoeddus, e.e. Cyngor Sir Môn o 1919 ymlaen (bu'n gadeirydd 1928-30 ac yn henadur), Cymdeithas y Cynghorau Sir, Pwyllgor Milne ar Gyflenwad Dwr, Pwyllgor Athlone ar y Gwasanaethau Nyrsio, Pwyllgor Rushcliffe ar Gyflogau Nyrsys, Cyngor Canolog Whitley y Gwasanaeth Iechyd, Cyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Rhwng 1939 ac 1946 bu'n amlwg gyda gwaith y War Agricultural Executive Committee yn sir Fôn. Urddwyd ef yn farchog yn 1941.
Yn 1931 aeth ar daith o 7000 o filltiroedd trwy Rwsia gyda Frank Owen i ddal awyrgylch y wlad wedi'r chwyldro ar gyfer nofel yr oedd y ddau'n cydweithio arni - disgrifiodd y daith yn Y Ford Gron, Medi 1931. Cyhoeddwyd y nofel, Red Rainbow, yn 1932. Ynddi, dan gochl adrodd stori gyffro, ceisiai'r awduron rybuddio'r cyhoedd ym Mhrydain am nerth bygythiol Rwsia.
Priododd yn 1914 â Muriel Gwendolin, merch Owen Owen, Machynlleth a Lerpwl, y perchennog siopau. Ganwyd iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw ar 6 Mehefin 1966 ac fe'i claddwyd yn Amlwch.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.