CHANCE, THOMAS WILLIAMS (1872 - 1954), gweinidog (B) a phrifathro coleg

Enw: Thomas Williams Chance
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1954
Priod: Mary Maria Chance (née Morgan)
Plentyn: Sidney Morgan Chance
Rhiant: Mary Chance (née Williams)
Rhiant: Thomas Chance
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B) a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 23 Awst 1872 yn fab i Thomas Chance (bu farw 5 Ionawr 1873 yn 29 mlwydd oed) a Mary (ganwyd Williams; bu farw 15 Awst 1908 yn 79 mlwydd oed) o Erwyd, Brycheiniog. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol Penrhiw, ond oherwydd colli ei dad yn ifanc bu'n rhaid iddo adael yn 11 mlwydd oed i ennill ei fywoliaeth ei hun a'i deulu am y naw mlynedd nesaf yn was fferm, ar y cyntaf yn Erwyd ac yna i ffwrdd yn ardal Cathedin. Bedyddiwyd ef 17 Ebrill 1887 yn eglwys Heffsiba, Erwyd, ac ar anogaeth ei weinidog John Morgan dechreuodd bregethu, gan ailgychwyn ei addysg, hynny am ddwy fl. mewn ysgol ramadeg a gynhelid gan Daniel Christmas Lloyd, gweinidog (A), yn ei gartref yn Nhy Hampton, Y Clas-ar-Wy, ac wedyn yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle y graddiodd yn B.A. yn 1898 gydag anrhydedd yn y dosbarth I yn yr Hebraeg. Enillodd radd M.A. yn 1900 a gradd B.D. yn 1916. Ordeiniwyd ef yn 1899 yn weinidog eglwys Saesneg High Street, Merthyr Tudful. Penodwyd ef yn athro rhan-amser, yn darlithio ar Hanes yr Eglwys, yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd, Ionawr 1904; ac yn athro llawn a hefyd yn ysgrifennydd ariannol yn 1908. Bu'n brifathro gweithredol y Coleg wedi marw John Morlais Davies yn Ebrill 1928, ond er ei gymeradwyo gan y pwyllgor gwaith i gyfarfod brwd o bron naw cant o gynrychiolwyr eglwysi yng Nghaerdydd ar 20 Medi, colli'r swydd barhaol a wnaeth i Thomas Phillips (1868 - 1936), hynny o ddim ond pedair pleidlais ac yn ôl y farn gyffredin oherwydd ei ddiffyg Cymraeg. Yn dilyn marwolaeth Thomas Phillips, codwyd ef i'r swydd, Gorffennaf 1936, eithr nid heb gryn ddadlau am fisoedd ar dudalennau Seren Cymru. Parhaodd yn bennaeth hyd at ei ymddeol 30 Mehefin 1944 a'i ddynodi yn brifathro emeritws.

Ar wahân i'w alluoedd academaidd, yr oedd ganddo ddawn eithriadol i weinyddu a thrafod busnes, ac ymhlith ei brif gymwynasau yr oedd ei waith yn gosod cyllid y Coleg ar seiliau cedyrn, yn sicrhau rhydd-ddaliad y safle yn rhodd, a gofalu bod y tir a'r arian ar gael i godi'r coleg preswyl y buasai ef ers tro hir yn gwasgu amdano. Bu'n ddeon Cyfadran Ddiwinyddiaeth Prifysgol Cymru, 1928-32, ac ef biau rhan o'r clod yn 1928 am sefydlu Ysgol Ddiwinyddol Unedig yng Nghaerdydd, ac yn 1934 am lunio cwrs diploma i fyfyrwyr gweinidogaethol heb radd.

Bu'n aelod o eglwys Albany Road, Caerdydd, ac yn frwd ei gefnogaeth i waith yr enwad yn y ddinas, e.e. yn gadeirydd y Cardiff Baptist Board am 21 mlynedd. Bu hefyd yn llywydd Cymanfa Saesneg Dwyrain Morgannwg yn 1934-35. Yr oedd ganddo ddiddordeb eirias yng ngwaith cenhadol Christian Endeavour, a bu'n llywydd Undeb Cenedlaethol Cymru yn 1906-07 ac 1923-24, ac yn llywydd Undeb Prydain Fawr yn 1924-25. Ym Mehefin 1954, yn deyrnged i'w wasanaeth hirfaith i Gymanfa Saesneg Dwyrain Morgannwg, derbyniodd anrheg ganddi o ddarlun mewn olew ohono'i hun, o waith Alfred Hall, Caerdydd, a gyflwynodd yntau'n rhodd i Goleg y Bedyddwyr. Golygodd a chyfrannodd dair pennod i gofiant un o'i ragflaenwyr, The life of Principal William Edwards … (1934).

Priododd, 8 Awst 1900, Mary Maria, merch ei weinidog cyntaf John Morgan (bu farw 8 Medi 1922 yn 82 mlwydd oed) a Margaret ei wraig (bu farw 14 Ebrill 1924 yn 74 mlwydd oed), ac yr oedd mab iddynt yn fyw adeg priodas aur ei rieni ond wedi marw o'u blaen. Bu farw 22 Rhagfyr 1954 yn dilyn triniaeth llawfeddyg yn Ysbyty'r Sir, Henffordd, a chladdwyd ef ddeuddydd wedyn ym mynwent Heffsiba. Bu farw ei briod 22 Gorffennaf 1956 yn 81 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.