Ganwyd 20 Mehefin 1892, yn fab i Codrington Fraser Crawshay, Llanfair Grange, Y Fenni, Mynwy, a gor-orwyr i William Crawshay I. Addysgwyd ef yng Ngholeg Wellington a threuliodd flwyddyn yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yna bu ar brentisiaeth fer yng ngwaith haearn Cwmbrân, a chyfnod wedyn gyda chwmni o ymgymerwyr. Yn 1914 ymunodd â'r 3edd Welch Regiment ac yn ddiweddarach comisiynwyd ef i'r Gwarchodlu Cymreig a oedd newydd gael ei ffurfio, gan gyrraedd rheng capten. Clwyfwyd ef yn dost ym mrwydr Loos, a dechreuodd ar ymdrech oes yn erbyn afiechyd. Parhaodd gyda'i gatrawd tan 1924, a sefydlodd ei chôr a'i thîm rygbi. Tyst o'i frwdfrydedd dros y chwarae hwn oedd iddo noddi a hyrwyddo XV Crawshay a fu'n teithio siroedd y gorllewin bob blwyddyn a bod yn fagwrfa i chwaraewyr ieuanc o Gymry, a'i lywyddiaeth dros glwb rygbi y Cymry yn Llundain o 1924 ymlaen. Ei ddiddordeb nesaf oedd gwleidyddiaeth, ysgolion haf y Rhyddfrydwyr, Cynghrair y Cenhedloedd, ac aml gyrch aflwyddiannus fel ymgeisydd Rhyddfrydol dros etholaethau seneddol de Cymru. Ar ôl 1930 troes oddi wrth wleidyddiaeth weithredol at waith cymdeithasol.
Arweiniasai diweithdra cynyddol yn ne Cymru, drwy fentrau lleol, i dwf cyflym canolfannau galwedigaethol a chlybiau i ddynion di-waith. Sefydlwyd Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol De Cymru a Mynwy yn Chwefror 1934 i ddarparu peirianwaith cyddrefnedig taleithiol i arwain ac i galonogi'r unedau gwasgaredig. Cofnodir yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf: 'Syrthiodd tasg drom sefydlu'r Cyngor ar ysgwyddau'r Capten Crawshay, a roes wasanaeth llawn-amser bron' fel ysgrifennydd mygedol a chadeirydd ei bwyllgor llywodraethol. Bu rhaid iddo roi'r swyddi hyn heibio yn Rhagfyr 1934, pan ddaeth yn gomisiynydd rhanbarthol dros yr ardaloedd arbennig yn ne Cymru, gan gynrychioli yn yr ardaloedd glofaol y comisiynwyr cenedlaethol y rhoes y Senedd iddynt y gofal dros 'gychwyn, trefnu, gweithredu a chynorthwyo mesurau a luniwyd i hwyluso datblygiad economaidd a gwelliant cymdeithasol' ardaloedd 'yr effeithiwyd yn arbennig arnynt gan ddirwasgiad diwydiannol'. Y pwysicaf o'r mesurau economaidd oedd darparu ffatrïoedd newydd i'w gosod ar rent drwy gyfrwng y Wales and Monmouthshire Industrial Estates Ltd., yr oedd Crawshay yn gyfarwyddwr iddo o 1936 i 1945. Fel comisiynydd rhanbarthol, cadwodd ei ddiddordeb cydymdeimladol yn y Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol, gan weithredu arno fel cynrychiolydd y llywodraeth. Drwy ei ddylanwad, cafwyd grantiau hael o gronfa'r ardaloedd arbennig i estyn gwaith y Cyngor i feysydd newydd, gan gynnwys mudiad clybiau merched, mwy o nyrsio lleol, addysg oedolion, ac ailsefydlu llyfrgelloedd. Fel garddwriaethwr pybyr sicrhaodd fod adnoddau'r llywodraeth ar gael i ddau arbrawf llwyddiannus mewn amaethu cydweithredol a alluogodd nifer o lowyr i ddychwelyd i'r tir. Yr oedd y rhain dan reolaeth y Welsh Land Settlement Society Ltd. yr oedd ef yn gadeirydd arni. Ef hefyd oedd cadeirydd Pwyllgor Diwydiannau Gwledig Cyngor Cymunedau Gwledig sir Fynwy.
Daeth gweithgareddau'r ardaloedd arbennig i ben pan dorrodd y rhyfel allan yn 1939, ac o 1940 i 1945 Geoffrey Crawshay oedd rheolwr rhanbarth Cymru o'r Weinyddiaeth Cynhyrchu Awyrennau, yn cysylltu'r llywodraeth ganolog gyda'r cwmnïau gwneud rhannau a chyfarpar awyrennau yng Nghymru. Yn 1945 gwnaethpwyd ef yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Cymru, a oedd y pryd hwnnw yn cychwyn ar waith ail-lunio wedi'r rhyfel, yn cynnwys gwasanaeth iechyd newydd, rhaglen ddarparu-tai helaeth, gwell cyflenwad dŵr, gwasanaethau cymdeithasol helaethach, ac arolygiaeth llywodraeth leol.
Ymhlith ei ddiddordebau addysgol yr oedd aelodaeth o lys Coleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd, yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol. Rhoes sylw brwdfrydig i'r Eisteddfod Genedlaethol a'i diwygiad, yr oedd yn aelod o'r Orsedd o dan yr enw ' Sieffre o Gyfarthfa ', a hyd 1947 yr oedd yn arwyddfardd trawiadol ar ei farch. Yn 1935 rhoes Prifysgol Cymru radd Ll.D. er anrhydedd iddo. Yr oedd yn Uchel Siryf sir Fynwy yn 1939; yr oedd yn ddirprwy Lifftenant ac Ynad Heddwch dros y sir, ac yn farchog Urdd S. Ioan. Bu'n gadeirydd Bwrdd Afon Wysg a'r Cyngor Adeiladau Hanesyddol dros Gymru.
Wedi gorfod ymddeol parhaodd am ddwy flynedd i frwydro yn erbyn afiechyd a bu farw yn ddisymwth mewn gwesty yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd 1954. Fe'i claddwyd yn eglwys Llanfair Cilgedin, Y Fenni. Yr oedd yn 62 oed ac yn ddibriod.
Cymerodd ran mewn llawer agwedd ar fywyd Cymru ond i'w gyfoeswyr adnabyddid a pherchid ef yn fwy na dim am ei nawdd hael a'i anogaeth i ieuenctid addawol ym mhob maes o ddiddordeb.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.