Ganwyd ar Ddygwyl Dewi 1886 mewn bwthyn to gwellt a elwid Cwarter Coch ar ffordd y mynydd yng Nghwmgrennig, Glanaman, Sir Gaerfyrddin. Ef oedd y trydydd o wyth plentyn Daniel Davies, glöwr, o fferm Ysguborwen, Betws, a'i wraig a hanai o'r Bryn, Llanelli. Aeth William yn 13 oed i weithio gyda'i dad a'i frodyr yn nrifft Gelliceidrim. Dryswr yn dilyn haliers ydoedd am ryw bedwar mis, ond teimlai ei dad fod y bywyd hwnnw'n rhy arw iddo, a chafodd waith ar bympiau awyr y lefel. Ym Mehefin 1900 wrth lanhau powdwr o gapiau dynameit yn ei gartref chwythwyd ei law chwith a bu'n rhaid ei thorri wrth yr arddwrn. Dallwyd ef gan y ffrwydriad ond daeth ei olwg yn ôl ymhen rhyw fis. Ar gyngor ei athro Ysgol Sul dysgodd law-fer Pitman a'i meistroli'n drylwyr. Ar hyd ei oes atynnid ef tuag at addysg academaidd a daeth darllen yn un o'i arferion. Yr oedd Charles Dickens a Conan Doyle ymhlith ei ffefrynnau a chofia'i blant am y sesiynau darllen a'u harweiniodd hwy i feysydd llên. Wedi dysgu llaw-fer ymunodd a staff y South Wales Press yn Llanelli. Yn 1903 dechreuodd gadw dyddiadur mewn llaw-fer, a glynodd wrth yr arfer. Ef oedd ' Llyn y Fan 'yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1962, gyda dyddiadur y cymeradwywyd ei gyhoeddi. Ymddangosodd detholiad o'r dyddiadur wedi ei olygu gan J. Ellis Williams o dan y teitl Berw bywyd yn 1968. Dinistriwyd y dyddiaduron gwreiddiol. Yn 1905 symudodd i Gaerdydd at y South Wales Daily News, a daeth yn is-olygydd gwleidyddol a gohebydd clonc i'r papur hwnnw. Yn 1919 ymunodd â staff y Daily Sketch yn Llundain ac yn 1923 aeth drosodd at y Daily News -y News Chronicle, yn ddiweddarach. Bu'n dal swyddi is-olygydd, prif is-olygydd, golygydd nos, a golygydd cynorthwyol i'r papur. Daeth ei golofn wythnosol ' Llygad Llwchwr ' yn boblogaidd iawn ac ynddi brigai ei gariad at Gymru, ei diwylliant a'i gwerin i'r wyneb. Tyfodd yn un o benaethiaid disgleiriaf Strŷd y Fflŷd, ond cadwodd ei radicaliaeth ddigymrodedd a'i anghydffurfiaeth gadarn drwy gydol ei oes. Dengys ei ysgrifau graffter ei farn am bersonau a digwyddiadau. Yr oedd yn feddyliwr chwim ac yn amddiffynnydd glew i'r dyn cyffredin ac i fuddiannau Cymru. Un o'i fuddugoliaethau oedd atal lledaeniad fforestiaeth yn nyffryn Tywi. Bu'n amlwg ar feysydd yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd, a derbyniwyd ef er anrhydedd i wisg wen Gorsedd y Beirdd ym Mhwllheli yn 1955. Bu'n dilyn ymgyrchoedd cenhadu Stephen a George Jeffreys yng Nghymru a Llundain. Fe'i bedyddiwyd yn Llanelli, ac yn Llundain addolai yn Nhabernacl Spurgeon. Bu'n gwneud gwaith cymdeithasol gyda Byddin yr Iachawdwriaeth am flynyddoedd yn Llundain.
Priododd yn 1909 Margaret, merch William Trefor Davies, gweinidog Soar (A), Llanelli, a bu iddynt fab a merch. Bu farw ei wraig yn 1953, ychydig wythnosau ar ôl iddynt symud, ar ei ymddeoliad ef, i Gaerdydd. Yno ymaelododd yng nghapel y Tabernacl, ac yn 1958 priododd un o aelodau'r eglwys, Eirene Hughes, gweddw T. Rowland Hughes. Wedi ymddeol bu'n ysgrifennu'n gyson am ysbaid i'r Cymro wrth yr enwau ' Sguborwen ' a ' Llygad Llwchwr '. Bu farw ar Sul 4 Tachwedd 1962 yn ysbyty St. Winifred, Caerdydd, a chladdwyd ei lwch ym medd ei wraig gyntaf ym mynwent y Box, Llanelli.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.