Ganwyd 2 Mehefin 1893 yng Nghefn-y-mwng, bwthyn yn ymyl pentref Carmel, Sir Gaerfyrddin, y 3ydd o blant Thomas Davies, glöwr, a'i wraig Ellen (ganwyd Williams). Wedi mynychu ysgolion lleol (hyd 1907) a dilyn dosbarthiadau nos a gohebol, bu'n gweithio mewn amryw byllau glo a Doc y Barri (1907-12) cyn ymfudo i T.U.A. a Chanada (a chyfnodau yn Tsieina a Siapan), lle bu'n mwyngloddio, gan sefydlu'r Northwestern Coal and Coke Co., Steamboat Springs, Colorado, yn paffio ac yn astudio'r gyfraith ym mhrifysgolion Seattle a Pueblo. Ymunodd â Llynges T.U.A. yn 1918 a'i hyfforddi'n beiriannydd ond dychwelodd i Gymru yn 1919 (a'i ryddhau o'r Llynges yn 1920). Bu'n gweithio dan ddaear am ychydig yn Llandybïe, ond wedi damwain ddifrifol yn 1919 ni allai barhau i weithio a threuliai ei amser yn darllen ac yn astudio economeg, gwleidyddiaeth, a hanes mudiad y gweithwyr. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Blaid Lafur yn ardal Rhydaman. Newidiodd ei agwedd at berthynas sosialaeth a chenedlaetholdeb pan dreuliodd gyfnod yn 1924 yn y coleg gwerin cydwladol yn Elsinôr (lle y cyfarfu â Noëlle Ffrench , o Bushy Park, Roscommon, Iwerddon, a ddaeth yn wraig iddo 2 Mehefin 1925), ac yn ysgol werin Vestbirk, Denmarc. Daeth i gredu fod cydwladoldeb gwirioneddol yn seiliedig ar gydweithrediad rhwng cenhedloedd rhydd ac mai mewn Cymru annibynnol y gellid hyrwyddo buddiannau gweithwyr Cymru. Yr oedd felly yn rhagredegydd y mudiad a ffurfiodd y Blaid Genedlaethol yn 1925. Dychwelodd D.J. Davies o Ddenmarc yn genedlaetholwr o argyhoeddiad ac yn bleidiwr cydweithrediad fel polisi economaidd a osodai berchnogaeth a rheolaeth moddion cynhyrchu yn llaw'r gweithwyr.
Wedi ymgais aflwyddiannus i sefydlu ysgol werin yn Iwerddon, yn 1924-25, aeth i C.P.C. Aberystwyth lle y graddiodd mewn economeg (B.A.) yn 1928, M.A. (1930), Ph.D. (1931), ac enillodd nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar bynciau gwleidyddol ac economaidd (1930, 1931, 1932 - traethawd a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, The economic history of south Wales prior to 1800 (1933) - ac 1933). Daeth yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru a chyflawni cryn wasanaeth fel ymchwilydd ac ysgrifennu pamffledi ac erthyglau cyson i holl gyhoeddiadau'r mudiad, e.e. The economics of Welsh self-government (1931), Towards an economic democracy (1949), Can Wales afford self-government? (gyda Noëlle Davies , 1938, 1947), Cymoedd tan gwmwl (gyda Noëlle Davies , 1938), Diwydiant a masnach (1946). Yr oedd yn ymwybodol o'r rheidrwydd i apelio at Gymry di- Gymraeg a chymerodd ran amlwg yn y penderfyniad i symud y brif swyddfa o Gaernarfon i Gaerdydd yn 1944.
Yn 1932 prynodd ef a'i wraig blas Pantybeilïau yn Gilwern ger Bryn-mawr, Mynwy, a cheisio sefydlu ysgol werin yno. Er iddynt fethu yn y bwriad hwn, daethant i ymddiddori yn y ddadl ynghylch statws cyfreithiol sir Fynwy a daliasant ar bob cyfle i ddangos ei bod erioed yn rhan annatod o Gymru.
Bu farw 11 Hydref 1956 a'i gladdu ym mynwent Carmel (B) yn y pentref lle y'i ganwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.