Ganwyd Noëlle Davies yn Bushy Park, Mount Talbot, Swydd Roscommon, Iwerddon ar 25 Rhagfyr 1899, yn ferch hynaf i Thomas Cornwall Ffrench (m. 1941), ffermwr, a'i wraig artistig Georgina (g. Kennedy, m. 1941); roedd ganddi chwaer iau, Rosamund (m. 1966).
Roedd yn aelod o Eglwys Iwerddon Anglicanaidd, a chafodd ei thiwtora'n breifat nes oedd yn dair ar ddeg oed. Mynychodd yr Ysgol Ffrengig yn Bray, Swydd Wicklow wedyn (1914-1918) ac aeth ymlaen i Goleg y Drindod Dulyn, gan ennill dosbarth cyntaf dwbl mewn Clasuron ac Ieithoedd Modern (1922) a Diploma mewn Addysg (1923). Yn ferch ddisglair a chystadleuol, enillodd nifer o wobrau ac anrhydeddau, yn enwedig deitl clodfawr Scholar y Coleg yn 1920. Bu'n swyddog yn yr Elizabethan Society, cymdeithas i ferched yn unig, ac ym Mudiad Cristnogol Myfyrwyr Prifysgol Dulyn. Lletyai oddi ar y campws yn Trinity Hall, neuadd i ferched a hwb academaidd lled-annibynnol. Yn ystod cyfnod y chwyldro yn Nulyn (1916-1922) roedd yn gefnogwr brwd ond heb chwarae unrhyw ran weithredol. Roedd ei chenedlaetholdeb Gwyddelig a'i Christnogaeth flaengar yn ganolog i'w holl ysgrifennu a gweithredu.
Gan gofleidio syniadau Padraig Pearce am addysg genedlaethol, bu'n darlithio yn yr International People's College yn Helsignör, Denmarc o Ionawr 1924, ac yno y cyfarfu â David James (Dai) Davies. Buan iawn y datblygodd perthynas ddofn a chariadus a phartneriaeth ddeallusol symbiotig rhyngddynt. Yn Nulyn o Awst 1924, gyda Margaret Cunningham, warden Trinity Hall, trefnodd ymgyrch ddylanwadol i sefydlu Ysgol Uwchradd Werin Wyddelig, gan fwriadu priodi Dai a dysgu yno ill dau. Methodd y cynllun oherwydd ymrwymiad y Wladwriaeth i addysg enwadol, ac ym Mai 1925 rhoddasant y gorau i'r syniad, gan briodi ac ymadael am Gymru, lle y bu Noëlle yn byw am ddeng mlynedd ar hugain. Cyhoeddodd ei bywgraffiad gwleidyddol o arloeswr ysgolion gwerin Denmarc N. F. S. Grundtvig (1783-1872), Education for Life yn 1931. Y flwyddyn ganlynol, cafodd hi a'i gŵr afael ar Bantybeilïau yn y Gilwern, sir Fynwy, er mwyn sefydlu Ysgol Werin Gymreig. Gyda Noëlle yn ysgrifenyddes a chymorth ymarferol gan gyd-genedlaetholwyr, buont yn ymdrechu i sefydlu'r ysgol hyd 1938. Er mai methiant fu'r ymdrech, datblygodd Pantybeilïau yn salon gwleidyddol dylanwadol ar gyfer Plaid Cymru, ac yn enwedig i garfan o 'ferched prifysgol' fel Noëlle. Bu Ceinwen Thomas (1911-2008) yn byw yn rhan o'u teulu o 1941. Roedd Noëlle o hyd yn awyddus i hyrwyddo addysg genedlaethol, ac ar ôl dychwelyd i Iwerddon yn 1957 bu'n weithgar gyda Daon-scoil na hEireann ac ariannodd ysgoloriaethau yn y 1960au a'r 1970au i alluogi aelodau ifainc o Blaid Cymru i fynychu cyrsiau haf yng nghenhedloedd bychain Ewrop.
Daeth y ddau'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1925, Noëlle ar gyfer ei doethuriaeth a Dai'n israddedig. Pan ffurfiwyd Plaid Genedlaethol Cymru yn yr un flwyddyn daethant yn aelodau pwysig iawn ohoni, ac yn 1930 penodwyd Dai i arwain ymchwil y Blaid. Penodiad ar y cyd oedd hwn i bob pwrpas, fel yr eglurodd Dai i Saunders Lewis: 'She could lecture on Economics and almost any other of my subjects, if necessary as we have largely studied them together'. Roedd Noëlle yn gyd-ymchwilydd ac yn gyd-awdur ar nifer o'i weithiau 'ef', gan gychwyn gyda The Economics of Welsh Self-Government (1931), cyhoeddiad arloesol a ddeilliodd o'r cyfieithiad a wnaeth Noëlle yn 1926 o waith y Marcsydd Almaenaidd Fritz Croner, Sturm Über England! Die Schicksalskrise des Britischen Weltreichs. Cyfrolau a gyhoeddwyd dan enwau'r ddau ohonynt oedd Cymoedd Tan Gwmwl (1938), Can Wales Afford Self-Government? (1939) a Wales, Land of Our Children? (1941). Trwy eu hymchwil yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, dan arweiniad Saunders Lewis, lluniasant bolisïau economaidd y Blaid gan ehangu ei hathroniaeth yn ogystal. Mae canmoliaeth Lewis i'r ddau ohonynt mewn llythyr yn 1931 yn ddisgrifiad addas o Noëlle: 'You are creating a new and richer nationalism in Wales, a new Welsh mind, which is not narrowly literary and one-sided, but is fully humanistic and in close touch with reality.' Arwydd o barch Lewis tuag ati yw'r ffaith iddo gael ei enwebu ganddi - ynghyd â'r Athro T. H. Parry-Williams - yn ei ymgais am sedd Prifysgol Cymru mewn etholiad seneddol yn 1931. Arweiniodd Noëlle a D. J. Davies ymgyrch hir y Blaid i gadw sir Fynwy'n rhan o Gymru, gan gyd-gyhoeddi Is Monmouthshire In Wales? yn 1943. Un peth pwysig a'u galluogodd i gynhyrchu swmp mor rhyfeddol o ymchwil oedd eu hannibyniaeth ariannol yn sgil portffolio o fuddsoddiadau a roddwyd yn waddol iddynt gan dad Noëlle.
Roedd Noëlle Davies yn rhan o ddadeni deallusol Plaid Genedlaethol Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'i strategaeth o dargedu etholaethau Llafur. Fe'i cyfetholwyd i Bwyllgor De Cymru y Blaid (1940) a'i chomisiynu i sgrifennu bywgraffiadau cryno o 'arwyr cenedlaethol' priodol. Yr un mwyaf nodedig, gydag argraffiad o dros 4,000, oedd Connolly of Ireland: Patriot & Socialist (1946), â'r nod o 'droi sosialwyr yn genedlaetholwyr'. Wedi'r rhyfel, er i Dai a Ceinwen symud tuag at Fudiad Gweriniaethol Cymru, arhosodd Noëlle yn ffyddlon i arweinyddiaeth Gwynfor Evans a bu'n brysur yn annerch canghennau ac ymgyrchu mewn etholiadau. Datblygodd bolisi rhyngwladol cynhwysfawr ar gyfer Cymru Rydd mewn ymateb i erchyllterau'r Ail Ryfel Byd a dyfodiad arfau atomig. Gan adeiladu ar egwyddorion Plaid Cymru, aeth ati i gyhoeddi a siarad am werth cenhedloedd bychain i'r Cenhedloedd Unedig ac yn erbyn tra-arglwyddiaeth y Pwerau Mawr. Roedd cyfiawnder cymdeithasol bydeang a mudiadau dinasyddion gweithredol rhyngwladol yn hanfodol i'w gweledigaeth, ac mae ei hegwyddorion yn dal i fod yn ysbrydoliaeth i bolisi Plaid Cymru heddiw. Enghreifftiau o'i chefnogaeth i bobl cenhedloedd bychain yw'r cymorth a roddodd i ffoaduriaid y Baltic rhag Staliniaeth a'i gwaith yn amddiffyn cenedlaetholwyr Llydewig rhag cyhuddiadau'r Ffrancwyr o gydweithio â'r Natsïaid.
Pan ddychwelodd Noëlle i Iwerddon yn 1957 wedi marwolaeth ei gŵr, datganodd Gwynfor Evans mewn anerchiad yn ei chinio ffarwelio, 'No native of Ireland [has] enriched the life of Wales to the extent that [she] has done,' a 'we should not allow her graciousness and unassuming nature to blind us to the fact that her mind is one of the most brilliant to concern itself [with Wales].' Yn ôl yn Nulyn, daliodd ati i roi ei hegwyddorion ar waith fel aelod sefydlu o'r Gynghrair Geltaidd (1961), Mudiad Gwrth-Apartheid Iwerddon (1964) a mudiadau dinesig blaengar eraill.
Roedd Noëlle yn ffigwr llenyddol rhyngwladol ar hyd ei hoes. Siaradai chwe iaith ac ysgrifennai farddoniaeth a rhyddiaith ers yn ifanc iawn. Yn fardd gwledig a rhamantaidd ac yn gyfieithydd amlieithog, gan ychwanegu beirniadaeth lenyddol a bywgraffiad yn nes ymlaen yn ei hoes, cyhoeddwyd ei gwaith mewn cylchgronau bychain a phapurau newydd ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon cyn ac wedi'r rhyfel. Cyhoeddwyd detholiad o'i cherddi, Middle Country yng Nghymru yn 1936, a golygodd Pencader Poems (1952) ar gyfer Plaid Cymru. Roedd yn rhan o gylch o feirdd a llenorion a hyrwyddwyd gan Pennar Davies yn ystod cyfnod blodeuo llenyddiaeth Eingl-Gymreig wedi'r rhyfel. Disgrifiai ei hun yn 'minor poet', ac mae ei cherddi hysbys yn ffurfio cyfanswm o ryw 35,000 o eiriau, nifer ohonynt yn cyfeirio at Gymru, fel y mae llawer o'i gweithiau trwy gydol ei bywyd hir.
Ers ei chyfnod yng Ngholeg y Drindod, perthynai iddi naws ddeallusol a ffeminyddol nodweddiadol o'r oes a roddai iddi hunan-hyder dihysbydd yn ei chydraddoldeb ei hun. Er bod hanes merched o fewn cenedlaetholdeb Cymreig gan mwyaf heb ei sgrifennu eto, roedd Noëlle a sawl un o'i chyfoeswyr yn y Blaid yn byw proto-ôl-ffeminyddiaeth, gan weithredu er gwaethaf patriarchaeth. Ffurfiwyd hyn o fewn rhwydweithiau merched Iwerddon yn wyneb adwaith gan y Wladwriaeth Rydd, ond mae'r un peth i'w weld yn achos llawer o raddedigion benywaidd Prifysgol Cymru: roedd gan Neuadd Alexandra Aberystwyth a Neuadd Aberdâr Caerdydd yr un ethos â Trinity Hall Dulyn. Er iddi dderbyn addysg Gwyddeles freintiedig, trosgynnodd Noëlle nodweddiadoldeb trwy rwydweithiau newydd rhyddhaol ar bob ochr i Fôr Iwerddon. Ymwrthododd â thrais Gwrthryfel Iwerddon, gan gofleidio ei Ramantiaeth, fel y tystia ei gweithiau llenyddol a gwleidyddol, a chafodd gartref mwy cydnaws o fewn Plaid Cymru nag yn ei chynghreiriad agos, Fianna Fáil de Valera.
Bu Noëlle Davies farw ar 14 Chwefror 1983 yn Bushy Park, ac fe'i claddwyd ym mhlot teulu Ffrench ym mynwent Mount Talbot.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-03-22
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.