DAVIES, DANIEL JOHN (1885 - 1970), gweinidog (A) a bardd

Enw: Daniel John Davies
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1970
Priod: Enid Davies (née Jones)
Rhiant: Ann Davies
Rhiant: John Morris Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Iorwerth Jones

Ganwyd 2 Medi 1885, yn y Waunfelen, bwthyn ym Mhentregalar, Crymych, Penfro, yn fab i John Morris ac Ann Davies. Pan laddwyd ei dad mewn damwain gyda thrên yng ngorsaf Boncath, symudodd ei fam a'i thri mab i dŷ o'r enw Tŷ-canol, ond yn fuan bu farw'r fam a'r ddau frawd, ac aeth y bachgen amddifad i gartrefu gyda chwaer ei fam yn Aberdyfnant, Llanfyrnach. Yno daeth o dan ddylanwad O.R. Owen, gweinidog eglwys Glandŵr (A). Dechreuodd bregethu yno ar y Sulgwyn, 1906. Wedi cyfnod yn ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, dilynodd gwrs anrhydedd mewn Hebraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a graddio yn 1913, a chwrs diwinyddol yn y Coleg Coffa, Aberhonddu. Yr oedd awdurdodau Aberhonddu wedi ei atal rhag cymryd Cymraeg yn brif bwnc yng Nghaerdydd. Er hynny, enillodd gadair eisteddfod y coleg ddwywaith. Ordeiniwyd ef yng Nghapel Als, Llanelli, yn 1916 - heddychwr pybyr yng nghanol y Rhyfel Mawr. Meddai ar ddaliadau radicalaidd cryf, yn wleidyddol a diwinyddol; ond nid un o feibion y daran ydoedd. Cododd chwech o fechgyn Capel Als i'r weinidogaeth, ac un cenhadwr a fu'n gweithio yn y Swdan.

Enillodd ar y cywydd bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Dywedodd R. Williams Parry, mewn sylwadau ar ei ' Ffynnon Fair ', na welodd neb a rodiai mor rhwydd a diymdrech yn llyffetheiriau'r gynghanedd. Daeth yn ail i Gwenallt yng nghystadleuaeth y gadair y flwyddyn cyn ennill y gamp yn 1932 yn Aberafan am ei awdl, ' Mam ', mewn cystadleuaeth o safon uchel. Beirniadodd yn y brifwyl droeon. Cyfansoddodd amryw o emynau cymeradwy. Cyhoeddwyd yn 1968 gasgliad o'i farddoniaeth, Cywyddau a chaniadau eraill. Cynhaliai ddosbarthiadau yn y cynganeddion yn Llanelli.

Er mai swil ydoedd wrth natur, daeth yn un o dywysogion ei enwad, gŵr hirben a doeth, gyda hiwmor diymdrech a deniadol. Etholwyd ef yn llywydd Undeb yr Annibynwyr, a gwelir ei araith o'r gadair yn Adroddiad 1957. Yr oedd yn un o olygyddion y Caniedydd Cynulleidfaol a gyhoeddwyd yn 1960. Ymddeolodd o ofalaeth Capel Als yn 1958. Bu farw 4 Mehefin 1970. Claddwyd ei ludw ym mynwent Glandŵr. Yr oedd ei briod, Enid, yn ferch i D. Stanley Jones, gweinidog (A), Caernarfon, gwraig hoffus a dawnus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.