Fe wnaethoch chi chwilio am Cledlyn
Ganwyd 6 Chwefror 1875 yng Nglan-rhyd, Cwrtnewydd, Ceredigion, ty a elwir bellach ' Langro ', y rhoddwyd maen bychan arno i gofnodi ei eni yno. Un o ddau fab Evan Davies ('Ifan go' neiler') a'i wraig Elizabeth (ganwyd James) ydoedd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Fwrdd Cwrtnewydd ac o 14 oed hyd nes iddo fynd i G.P.C. Aberystwyth, yn 1894, bu'n ddisgybl-athro yno. Enillodd ar ddiwedd ei dymor cyntaf yn y coleg un o'r ysgoloriaethau a gynigid i'r tri myfyriwr gorau yn yr adran addysg, ac ar ôl dwy fl. gadawodd gyda thystysgrif dosbarth I. Yn 1895 aeth i ddysgu ym Moelfre, Llansilin, ger Croesoswallt, a symud i ysgol Cofadail, Ceredigion, 9 Mai 1898. O 28 Chwefror 1902 hyd nes ymddeol yn 1935 bu'n brifathro ysgol ei bentref genedigol. Fel ysgolfeistr dawnus enillodd barch yr ardalwyr a'i ddisgyblion. Bu ei gyfrol o gerddi at wasanaeth ysgolion, Tusw o flodau (1925), yn boblogaidd iawn gan adroddwyr ieuainc.
Ymddiddorai mewn prydyddu, cystadlu a beirniadu mewn eisteddfodau. Enillodd brif wobrau am englynion a chywyddau, ynghyd â chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghorwen, 1919, am ei awdl 'Y proffwyd', ac yn yr Wyddgrug, 1923, am awdl 'Dychweliad Arthur'. Yr oedd ei feistrolaeth ar yr iaith Gymraeg yn gadarn ac yn sail i'w allu fel cynganeddwr. Bu'n llywydd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn 1920 ac ymddangosodd deuddeng emyn o'i waith yn Perlau moliant, er iddo ymwrthod â chrefydd o'r tridegau ymlaen. Ar ran Cymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion golygodd ef y penillion (a gasglwyd gan mwyaf gan John Ffos Davies) a D. J. de Lloyd y miwsig yn Forty Welsh traditional tunes (1929). Ysgrifennodd yn gyson i'r Welsh Gazette dros gyfnod o drigain mlynedd, ac i'r Ymofynnydd, Y Genhinen, a'r West. Mail (gweler Glyn Lewis Jones, Llyfryddiaeth Ceredigion, 1600-1964 (1967) a'r Atodiad, 1964-8 (1970) am lawer o'i waith). Pan oedd yn bedwar ugain ac wyth cyhoeddodd lyfr ar gymeriadau ei ardal gyda detholiad o'i farddoniaeth ei hun, Chwedlau ac Odlau (1963), ond ei brif waith, mewn cydweithrediad â'i ail wraig, oedd Hanes plwyf Llanwenog (1936; ail arg. 1939). Ysgrifennodd y ddau ' Hanes plwyf Llanwnnen ' hefyd a chyhoeddwyd rhannau ohono yn y Welsh Gazette.
Priododd (1), haf 1895, ag Elizabeth Thomas, Cwrtnewydd, a fu farw 12 Chwefror 1908 gan adael tair merch a mab. Priododd (2), 1914, Zabeth Susanah Owen, a fu'n ysgolfeistres ysgol y Blaenau. Bu farw 29 Rhagfyr 1964, bum niwrnod ar ôl ei wraig.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.