Ganwyd 5 Ebrill 1897. Dechreuodd weithio yn y lofa pan oedd yn 13 mlwydd oed a phan oedd yn 18 mlwydd oed fe'i hetholwyd yn gadeirydd Cyfrinfa Glofa Vivian. Ymaelododd â'r Blaid Lafur Annibynnol yn 1915 a thrwy honno daeth i gysylltiad â'r No Conscription Fellowship; gwrthododd ymuno â'r lluoedd arfog ac o ganlyniad fe'i carcharwyd yn 1917. Aeth i Lundain i'r Central Labour College yn 1919 lle bu'n gyd-fyfyriwr ag Aneurin Bevan a James Griffiths . Fe'i penodwyd yn 1927 yn ysgrifennydd amser-llawn i Gyfrinfa Glofa Penallta ac yn 1932 yn gynrychiolydd glowyr dwyrain Morgannwg. Yn 1938 daeth yn aelod o gyngor Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr, gan gynrychioli Ffederasiwn Glowyr Deheudir Cymru ar y corff hwnnw. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn dilyn marwolaeth Morgan Jones, fe'i hetholwyd yn aelod seneddol Llafur Caerffili ac fe gadwodd ei afael ar y sedd yn yr etholiadau cyffredinol canlynol o 1945 i 1966, gan ennill ym mhob un ohonynt dros saith deg y cant o'r bleidlais. Bu'n wrthwynebydd tanbaid i ffasgiaeth: beirniadodd Gytundeb Munich yn hallt, trefnodd i lowyr gwrth-Natsïaidd o'r Sudetenland ffoi o'r Almaen yn 1939, ymwelodd â gwersyll Buchenwald yn 1945 a chynrychiolodd lowyr Prydain yn seremoni dadorchuddio'r gofeb i bentrefwyr Lidice yn Tsiecoslofacia. Fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd grwp seneddol y glowyr yn 1942 ac yn gadeirydd grwp seneddol yr undebwyr llafur yn 1964.
Yn dilyn buddugoliaeth y Blaid Lafur yn 1945, cafodd swydd ysgrifennydd seneddol i'r Gweinidog Llafur. Y weinyddiaeth honno oedd â'r cyfrifoldeb o arolygu'r symudiad o'r lluoedd arfog i alwedigaethau sifil wedi'r rhyfel; cyflawnwyd hyn mewn modd llyfnach o lawer yn 1945-46 nag yn 1918-19 a pherthyn cryn dipyn o'r clod am hynny i Ness Edwards. Dyrchafwyd ef i'r Cyfrin Gyngor yn 1948. O 1950 i 1951 yr oedd yn Bost-feistr Cyffredinol ac yn y swydd honno bu'n gyfrifol am gyflwyno'r telegram cyfarchion. Yn wrthwynebydd i Gaitskell, ciliodd i'r meinciau cefn wedi i hwnnw ddod yn arweinydd y Blaid Lafur yn 1955, er iddo fod, ganol y pumdegau, ar flaen y gad yn gwrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth Geidwadol i sefydlu teledu masnachol.
Bu, ar hyd y blynyddoedd, yn wawdlyd iawn o genedlaetholdeb Cymreig a chynrychiolai'r traddodiad o sosialaeth ryngwladol a feithrinwyd gan y Central Labour College. Eto i gyd yr oedd ganddo ddiddordeb byw mewn materion Cymreig - dadleuai'n frwd o blaid diwygio'r modd y trafodid y materion hynny yn y senedd. Ymfalchïai'n fawr yn nhraddodiadau diwydiannol a llafurol deheudir Cymru ac am flynyddoedd, ei lyfrau (The industrial revolution in south Wales (1924), The history of the south Wales miners (1926) a The history of the South Wales Miners' Federation (cyfrol 1, 1938; y mae proflenni'r ail gyfrol yn Llyfrgell Coleg Nuffield, Rhydychen, ond ni chafodd ei chyhoeddi) oedd yr astudiaethau mwyaf hylaw ar y pynciau hynny. Bu farw 3 Mai 1968.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.