EMANUEL, HYWEL DAVID (1921 - 1970), llyfrgellydd ac ysgolhaig Lladin Canol

Enw: Hywel David Emanuel
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1970
Priod: Florence Mary Emanuel (née Roberts)
Rhiant: Margaret Emanuel (née James)
Rhiant: William David Emanuel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd ac ysgolhaig Lladin Canol
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Margaret Helen Davies

Ganwyd 14 Mai 1921 ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i William David Emanuel, ysgolfeistr, a'i wraig Margaret (ganwyd James). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y bechgyn, Llanelli, ac yna yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn Lladin yn 1941. Wedi pum mlynedd o wasanaeth tramor yn y Llynges yn ystod y rhyfel, penodwyd ef yn 1947 yn geidwad cynorthwyol yn adran llawysgrifau Ll.G.C. O 1955 i 1968 bu'n ddarlithydd, ac yna'n ddarlithydd hŷn, mewn Lladin Canol a phaleograffeg yn C.P.C., Aberystwyth. Yn 1968, penodwyd ef yn llyfrgellydd y coleg, swydd a ddaliai pan fu farw.

Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1950 am draethawd ar y testunau Lladin o fuchedd Sant Cadog, ac yn 1960 derbyniodd radd Ph.D. yr un brifysgol am astudiaeth o destunau Lladin cyfreithiau Hywel Dda. Wedi ymchwil pellach yn y maes hwn cyhoeddodd yn 1967 ei brif waith, sef y gyfrol The Latin texts of the Welsh Laws. Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill mae ei bennod ar y cyfreithiau yn Celtic studies in Wales (1963), a chyfraniadau i amryw weithiau sy'n ymwneud ag agweddau ar astudiaethau o'r Oesoedd Canol. Cyhoeddodd hefyd erthyglau ar y cyfreithiau ac ar bynciau eraill yn ymwneud â'r Oesoedd Canol, a chyfrannodd yn helaeth i Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Darllenwyd ei werthfawrogiad o A.W. Wade-Evans i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a'i gyhoeddi yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1965, 257-71.

Priododd yn 1947 Florence Mary Roberts o Borth Tywyn, a ganwyd iddynt fab a merch. Bu farw 20 Ebrill 1970, yn Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.