EVANS, HORACE, y BARWN EVANS cyntaf o FERTHYR TUDFUL (1903 - 1963), meddyg

Enw: Horace Evans
Dyddiad geni: 1903
Dyddiad marw: 1963
Priod: Helen Aldwyth Evans (née Davies)
Rhiant: Edith Gwendolen Evans (née Rees)
Rhiant: Harry Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 1 Ionawr 1903 ym Merthyr Tudful, Morgannwg, yn fab hynaf i'r cerddor Harry Evans a'i wraig Edith Gwendolen (ganwyd Rees). Yn fuan wedi ei eni symudodd y teulu i Ddowlais, lle'r oedd ei dad-cu yn fferyllydd, ac eilwaith i Lerpwl. Addysgwyd ef yng Ngholeg Lerpwl ac wedi marw ei dad yn ifanc yn 1914 bu yn Ysgol Gerdd y Guildhall am bedair blynedd ac yn y City of London School. Ar feddygaeth yr oedd ei fryd a chafodd ysgoloriaeth wyddonol i Goleg Meddygol Ysbyty Llundain. Cafodd ei gymwysterau meddygol yn 1925, graddiodd mewn meddygaeth a llawfeddygaeth yn 1928, ac M.D. yn 1930 pryd y daeth yn aelod o Goleg Brenhinol y Ffisigwyr ac yn gymrawd yn 1938. Penodwyd ef yn gyfarwyddwr cynorthwyol yn yr uned feddygol yn 1933, ffisigwr cynorthwyol i Ysbyty Llundain yn Whitechapel yn 1936 a ffisigwr llawn yn 1947. Bu'n gweithio dan Arthur Ellis, yr hwn a'i hyfforddodd yn nisgyblaeth glinigol draddodiadol Lloegr, ac a ddaeth ag ef i amlygrwydd trwy ei ddewis yn feddyg ty yr uned feddygol. Wedi hynny penodwyd ef i swyddi ym maes llawfeddygaeth, bydwreigiaeth, patholeg ac anaesthetigion, gan fagu profiad helaeth ar gyfer gyrfa fel ffisigwr cyffredinol. Arbenigai mewn effeithiau pwysedd gwaed uchel a chlefydau'r arennau, gan wneud astudiaeth drylwyr o glefyd Bright. Cyfrannodd erthyglau ar y pwnc i gylchgronau meddygol a gwyddonol, ac ymhen blynyddoedd gwnaeth ddiweddariad awdurdodol i Frederick William Price (gol.) o'r adran ar glefydau'r arennau yn Textbook of the practice of medicine (8fed. argraffiad; 1950). Bu hefyd yn ffisigwr ymgynghorol i bum ysbyty arall ac i'r llynges. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am symud y Royal College of Physicians o Sgwâr Trafalgar i Regent's Park, a denu cefnogaeth ariannol hael o'r Wolfson Foundation tuag at gost ei adeiladu.

Gwasanaethodd y teulu brenhinol fel meddyg i'r Frenhines Mary yn 1946, i George VI yn 1949 a'r Frenhines Elizabeth yn 1952 a derbyniwyd ef ganddynt fel cyfaill. Urddwyd ef yn farchog yn 1949, a'i ddyrchafu'n farwn yn 1957. Traddododd ddarlithoedd Croon yn 1955 a gwnaed ef yn gymrawd er anrhydedd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 1961. Cafodd radd D.Sc. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd ryddfraint ei dref enedigol ym mis Ebrill 1962. Nid oedd ganddo lawer o ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored ac eithrio campau ceffylau yr oedd yn awdurdod arnynt, ac ymwelai'n aml â Monte Carlo.

Edrychid arno fel yr olaf o ffisigwyr cyffredinol yr oes gyda'i bwyslais ar yr angen am gael ffisigwyr personol gyda barn feirniadol wedi ei seilio ar brofiad cyffredinol eang. Credai'n gryf mewn trin y claf fel bod dynol. Creai ei bresenoldeb yn ystafell y claf a ward ysbyty argraff arbennig ar bawb a ddeuai i gysylltiad ag ef. Codai ei gydymdeimlad a'i ddealltwriaeth i raddau helaeth o'i brofiad teuluol.

Priododd yn 1929 â Helen Aldwyth, merch T.J.D. Davies, Abertawe, a bu iddynt ddwy ferch, ond collwyd yr ieuangaf mewn amgylchiadau trychinebus. Bu farw 26 Hydref 1963 a'r Fonesig Evans ar 3 Rhagfyr 1963 wedi salwch blin.

Yr oedd Hubert John Evans (ganwyd 1904), llysgennad i Nicaragua 1952-54, yn frawd iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/