EVANS, JANET (c. 1894 - 1970), gohebydd a gwas sifil

Enw: Janet Evans
Dyddiad geni: c. 1894
Dyddiad marw: 1970
Rhiant: Margaret Evans (née Davies)
Rhiant: Thomas John Evans
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gohebydd a gwas sifil
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Llundain c. 1894, yn ferch i Thomas John Evans a Margaret (ganwyd Davies), 82 Addington Mansions, Highbury, y ddau o Geredigion. Cafodd addysg breifat cyn mynd i'r Central Foundation Girls' School, a mynychu cyrsiau a gynhelid gan Brifysgol Llundain wedi hynny. Wedi dysgu llaw-fer a theipio daeth yn ysgrifennydd personol i gyfarwyddwr cwmni allforio Amalgamated Anthracite Collieries Ltd. yn Llundain. Er iddi gael ei magu yn Llundain, cymerai ddiddordeb mawr mewn popeth Cymreig a bu'n ohebydd ar faterion Cymreig i bapurau Llundain. Teithiodd lawer ar gyfandir Ewrob ac aeth i'r Amerig ddwywaith i ymweld â pherthnasau a darlithio i'r Cymry yno. Ar ddechrau Rhyfel Byd II gweithiodd gyda'r B.B.C. yn Evesham, yn gwrando ar ddarllediadau Saesneg o wledydd tramor. Teithiodd trwy lawer o Gymru wrth ei gwaith fel Woman Power Officer Cymru, 1942-45. Bu galw arni i ddarlithio i gymdeithasau, yn enwedig ar Gymry Llundain a'r Amerig, a darlledai'n fynych yng nghyfres 'Gwraig y tŷ', 'Woman's Hour', a rhaglenni radio eraill, c. 1947-54. Cymerodd ran amlwg ym mywyd cymdeithasol Cymry Llundain. Hi oedd y wraig gyntaf i fod yn gadeirydd Cymdeithas Cymry Llundain, a'r gyntaf i gael ei hethol yn aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Ceredigion Llundain a gwasanaethodd fel is-olygydd Llawlyfr y Gymdeithas, 1936-39 a golygydd am bum mlynedd pan ailgychwynnwyd y cylchgrawn yn 1952. Ar ôl ymddeol i Geredigion bu farw yn ferch weddw 11 Rhagfyr 1970 a chladdwyd ei lludw ym mynwent Capel Erw, Cellan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.