Ganwyd 2 Rhagfyr 1863 ym mhlwyf Cellan, Sir Aberteifi, mab Evan Evans, Glanrhyd, Llanfair Clydogau, a Jane (Hughes), Pensingrig, Cellan. Wedi bod am gyfnod yn athro yn ysgol ei blwyf genedigol aeth i Lundain yn 1882 i fod yn glerc, ac am hanner canrif bu â chysylltiad clos â bywyd Cymreig y brifddinas. Gwnaeth lawer i roddi bywyd newydd yng nghymdeithasau llenyddol capeli ac eglwysi Cymreig Llundain a chreu diddordeb ynddynt; bu'n cynorthwyo hefyd i sefydlu llawer o glybiau cymdeithasol a chymdeithasau eraill i Gymry yn Llundain. Yn 1895 sefydlodd Celt Llundain, newyddiadur dwyieithog wythnosol, ac oddieithr am ddau dymor byr bu'n ei olygu am gyfnod o 20 mlynedd hyd nes y peidiodd ag ymddangos yn amser prinder papur yn ystod rhyfel 1914-8. Pan oedd Rhyddfrydiaeth Gymreig ar ei huchelfannau yr oedd yn gyfaill a chynorthwywr i wŷr ieuainc talentog ei genhedlaeth - Tom Ellis, David Lloyd George, William Llewelyn Williams, ac Ellis Jones Griffith. Yr oedd yn hysbys fel casglwr llyfrau Cymraeg neu'n ymwneuthur â Chymru ac yn cael ei gydnabod yn awdurdod ar hanes cymdeithasau a sefydliadau Cymreig yn Llundain. Yr oedd yn aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Yr oedd yn ddyn caredig a rhadlon; yr oedd ganddo ddawn arbennig i greu a chadw cyfeillion ymhlith pobl o bob credo ac opiniwn; ac yr oedd yn ddiflino gyda'r gwaith o gynorthwyo Cymry ieuainc yn y brifddinas. Priododd, 1891, Margaret, merch Lewis Davies, Llanbedr-Pont-Steffan; bu iddynt ddwy ferch, Magdalen May, a fu farw yn blentyn, a Janet. Bu farw 13 Mai 1932.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.