EVANS, JOHN RICHARDS (1882 - 1969), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: John Richards Evans
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1969
Priod: Anne May Evans (née Thomas)
Rhiant: Margaret Evans
Rhiant: William Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 10 Ionawr 1882 yn Manchester House, Pen-y-graig, Cwm Rhondda, Morgannwg, mab William a Margaret Evans. Addysgwyd ef yn ysgol uwchradd Caerdydd, ysgol ganolradd y Porth, ac, ar ôl dechrau pregethu, yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd yn y celfyddydau), a cholegau diwinyddol Trefeca ac Aberystwyth (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth). Ordeiniwyd ef yn 1909, a bu'n gweinidogaethu yn y Bwlch, Brycheiniog (1906-10), a Bethlehem, Aberpennar, Morgannwg (1914-39). Ymddeolodd o ofal bugeiliol yn 1939, ac yng Nghaerdydd y bu ei gartref hyd ddiwedd ei oes. Priododd, 1941, Anne May Thomas.

Yr oedd J.R. Evans, yn ei ddydd, yn un o brif arweinwyr y MC. Bu'n llywydd Sasiwn y De (1952), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1955). Ef, a'r esgob Havard, oedd llywyddion cyntaf Cyngor Eglwysi Cymru; bu'n cynrychioli eglwysi Cymru yng nghynhadledd gyntaf Cyngor Eglwysi'r Byd. Ef hefyd oedd cynrychiolydd ei gyfundeb ar y Presbyterian Alliance. Traddododd y Ddarlith Davies yn 1938, ac fe'i cyhoeddwyd yn 1941 dan y teitl Cristnogaeth a'r bywyd da. Cyn hynny, yn 1923, cyhoeddodd werslyfr defnyddiol, Y Proffwydi a'u cenadwri. Ysgrifennodd lawer i'r Goleuad, Y Drysorfa, a'r Traethodydd - bu'n un o olygyddion yr olaf o 1952 hyd ei farwolaeth. Bu farw 10 Chwefror 1969, a chladdwyd ei weddillion ym medd y teulu yn Nhrealaw, Cwm Rhondda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.