HAVARD, WILLIAM THOMAS (1889 - 1956), esgob

Enw: William Thomas Havard
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1956
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Ganwyd 23 Hydref 1889 yn Neuadd, Defynnog, Brycheiniog, 3ydd mab William Havard, diacon yn y Tabernacl (A), Defynnog, a Gwen ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol sir Aberhonddu; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd 3ydd dosbarth mewn hanes yn 1912); Coleg S. Mihangel, Llandaf; Coleg Iesu, Rhydychen (M.A.) 1921. Urddwyd ef yn ddiacon gan John Owen esgob Tyddewi, yn 1913, ac yn offeiriad yn 1914. Bu'n gurad Llanelli, 1913-15. Rhwng 1915 ac 1919 bu'n gaplan yn y lluoedd arfog. Enwyd ef mewn cadlythyrau, 1916, a dyfarnwyd iddo'r M.C., 1917. Bu'n gaplan Coleg Iesu, Rhydychen, 1919-21, curad Aberhonddu, 1921-22, ficer St. Paul-at-Hook, 1922-24, ficer St. Luke, Battersea, 1924-28, ficer Santes Fair, Abertawe, 1928-34, canon yng nghadeirlan Aberhonddu, dwyrain Gŵyr, 1930-34. Cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy, Medi 1934, wedi i A.G. Edwards ymddeol. Ar ôl 16eg mlynedd yno penodwyd ef yn 1950 yn Esgob Tyddewi. Bu farw 17 Awst 1956. Claddwyd ef yn Aberhonddu.

Bu'n bregethwr dethol prifysgol S. Andrew, 1943, Caergrawnt, 1946, ac yn 1951 bu'n ymwelydd-ddarlithydd ym Mhrifysgol Yale. Bu'n gadeirydd cyngor addysg yr Eglwys yng Nghymru, ac yn ymwelydd i Goleg Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg S. Ioan, Ystrad Meurig. Cymerodd ran flaenllaw ym mudiad addysg grefyddol yn yr ysgolion. Gweithiodd i geisio gwell cydweithrediad rhwng yr Eglwys yng Nghymru a'r Anghydffurfwyr. Magwyd ef yn Annibynnwr a bu'n aelod yng nghapel yr Annibynwyr yn Baker Street, Aberystwyth, o 1908 i 1911, ac wedi graddio yng Ngholeg y Brifysgol yr ymunodd â'r eglwys esgobol. Yr oedd yn bregethwr grymus yn Gymraeg a Saesneg, a gwahoddwyd ef yn aml i bregethu yn y gwasanaethau yr arferid eu darlledu y Sul o flaen yr Eisteddfod Genedlaethol

Enillodd fri fel chwaraewr rygbi yn Aberystwyth a chafodd ei gap am chwarae dros Gymru yn erbyn Seland Newydd yn 1919. Enillasai ei 'las' am chwarae rygbi yn Rhydychen.

Priododd yn 1922 â Florence Aimèe Holmes, merch Joseph Holmes, Pen-y-fai, Llanelli, a bu iddynt 2 fab a 2 ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.