EVANS, JOHN SILAS (1864 - 1953), offeiriad a seryddwr

Enw: John Silas Evans
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1953
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a seryddwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Ganwyd 11 Mawrth 1864, mab Evan Evans, Blaen-llan, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol, ysgol Alcwyn C. Evans yng Nghaerfyrddin, hen ysgol ramadeg Llanbedr Pont Steffan, a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, gan ddal ysgoloriaethau Phillips a Treharne yn y coleg hwnnw. Graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth yn 1885, a chipio gwobrau Cymraeg a gwyddoniaeth. Bu'n athro am flwyddyn mewn coleg yn Coventry. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn Llanelwy yn 1887, ac yn offeiriad yn 1888. Bu'n gurad Diserth, 1887-90, Rhos-ddu, 1890-95, ficer Llanelwy a ficer corawl yn yr eglwys gadeiriol, 1895-1901, ficer y Gyffylliog, 1901-09, a Llanrhaeadr-ym-Mochnant gyda Llanarmon Mynydd Mawr, 1909-38. Yr oedd yn broctor o gonfocasiwn Caer-gaint, 1917-20, ac yn ganon eglwys gadeiriol Llanelwy, 1928. Yn 1923 etholwyd ef yn gymrawd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol; yr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Seryddol Frytanaidd, ac yn aelod o gyngor Coleg Dewi Sant, 1927-39.

Cyhoeddodd Seryddiaeth a seryddwyr (1923); Marvels of the sky (1931); Ad astra (1930); Hanes plwyf Llanrhaeadr ym Mochnant (1940); a Myfyrion min yr hwyr (1949).

Yr oedd galw mawr arno fel pregethwr arbennig a phregethodd yn eglwys gadeiriol Henffordd, Gŵyl Ddewi, 1925, a St. Paul, Llundain, 1939. Meddai ar gof eithriadol a gallai fynd trwy wasanaethau'r eglwys bron ar dafod leferydd heb gymorth llyfr gwasanaeth. Yr oedd yn awdurdod ar seryddiaeth, darlithiai'n gyson ar y pwnc, a pheintiodd nenfwd corff eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant gyda'r sêr a'r planedau ar gefndir glas. Cymerai ddiddordeb mawr mewn llên gwerin a hanes lleol. Hen lanc ydoedd. Pan ymddeolodd yn 1938 aeth i fyw i Aberystwyth er mwyn bod yng nghyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol. Rhoes yr enw Ad astra ar ei dŷ. Ysgrifennodd hanes plwyf Pencarreg wedi iddo ddychwelyd i'w hen gartref yn y plwyf, lle y bu farw 19 Ebrill 1953. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Pencarreg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.