EVANS, DAVID TECWYN (1876 - 1957), gweinidog (EF)

Enw: David Tecwyn Evans
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1957
Priod: Nanna Evans (née Stirrup)
Rhiant: Catherine Evans
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd 5 Rhagfyr 1876 yn Aberdeunant Uchaf, Llandecwyn, Meirionnydd, mab Evan a Catherine Evans. Cafodd ei addysg yn ysgol genedlaethol Llandecwyn, ysgol fwrdd Talsarnau (lle bu hefyd yn ddisgybl-athro), Coleg y Brifysgol, Bangor a choleg diwinyddol Didsbury, Manceinion. Dechreuodd bregethu y Sulgwyn 1894 yn 17 oed a daeth i sylw gwlad yn fuan, ac yn 1902 ar ddechrau ei yrfa bu ar daith bregethu yn America ac aeth yno wedyn yn 1913. Bu'n weinidog yn y lleoedd a ganlyn: Aberdyfi 1902, Llanddulas 1904, Y Felinheli 1907, Conwy 1910, Llanrwst 1911, Birkenhead 1914, Wrecsam 1919, Rhyl 1922, Bangor 1925, Llandudno 1928, Tre-garth 1931, Abergele 1936, Aberdyfi 1939. Yn 1941 aeth yn 'uwchrif' gan fyw yn y Rhyl. Yno y bu farw yn 80 oed 27 Hydref 1957. Ei briod oedd Nanna Stirrup o Langefni a fu farw yn 1925. Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1927 am draethawd ar yr iaith Gymraeg a chafodd radd D.D. (Cymru) er anrhydedd yn 1951. Ef oedd llywydd y Gymanfa Gymreig yn 1929-30 ac o 1936 hyd 1941 bu'n gadeirydd ail dalaith gogledd Cymru.

Yr oedd ' Tecwyn ' yn un o dywysogion mwyaf y pulpud yn ei gyfnod ac yn ei bregethu ceid cyfuniad rhyfedd o ysgolheictod, gwres a dawn llefaru. Yr oedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel ' Llyfr Job ', ' Llyfr Jona ', ' Y Beibl Cymraeg ', ' Ann Griffiths ', ' Puleston Jones '. Cyhoeddwyd amryw o'r darlithiau hyn yn llyfrynnau. Yr oedd yn ddisgybl teyrngar iawn i John Morris-Jones a gwnaeth lawer i boblogeiddio'r orgraff newydd mewn darlith a chylchgrawn a thrwy ei lyfr Yr iaith Gymraeg: ei horgraff a'i chystrawen (1911) a ail-argraffwyd droeon. Bu'n olygydd Yr Eurgrawn am ugain mlynedd (1931-51) a thrwy hwnnw hefyd dysgodd lawer i ysgrifennu Cymraeg cywir.

Lluniodd rai emynau (y mwyaf adnabyddus yw ' Duw a Thad yr holl genhedloedd') a chyfieithodd emynau a cherddi eraill a chyhoeddodd rai ohonynt yn Bytheiad y nef a chaniadau eraill (1927). Yr oedd yn gydolygydd Llestri'r trysor (1914), ac yn 1920 cyhoeddodd Iesu hanes, cyfieithiad o Jesus of history (T.R. Glover). Cyhoeddodd esboniad i'r Ysgol Sul ar I Corinthiaid (1926), casgliad o weddïau (1945), llawer o'i bregethau mewn cyfnodolion a llyfrau, a pheth o hanes ei fywyd yn Atgofion cynnar (1950).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.