FARR, HARRY (1874 - 1968), llyfrgellydd

Enw: Harry Farr
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1968
Priod: Elsie Olive Farr (née Davies)
Rhiant: Martha Rebecca Farr (née Harris)
Rhiant: William Farr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd yng Nghaerdydd, 11 Mehefin 1874, mab William Farr, brodor o Gaersallog, a Martha Rebecca (ganwyd Harris) ei wraig. Bu hi farw yn Rhagfyr 1875 ar enedigaeth efeilliaid a fu farw o fewn yr un mis. Ymddengys i'r tad wedyn fynd yn ddisgybl yn Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf, Caerdydd. Yn ôl adroddiad blynyddol yr ysgol am 1880-81, yr oedd yn un o ddau fyfyriwr hŷn a benodwyd yn ddisgybl-athrawon, a'r tymor canlynol penodwyd ef yn athro celf. Addysgwyd y mab yng Nghaersallog. Ymunodd â staff Llyfrgell Rydd Caerdydd yn 1891. Yn 1896 dyrchafwyd ef yn bennaeth yr adran gyfeirio ac yn ddirprwy-lyfrgellydd yn 1901. Pan ymadawodd John Ballinger yn 1908 i fod yn Llyfrgellydd cyntaf Ll.G.C. Farr a gafodd ei le.

Yn ystod y 32 mlynedd y bu'n Llyfrgellydd Caerdydd parhaodd bolisïau goleuedig a blaengar ei ragflaenydd. Adeiladwyd dwy gangen newydd (Gabalfa 1928, a Threlái, helaethwyd 6 changen hŷn, darparwyd neuaddau i blant lle nad oedd un o'r blaen a sefydlwyd canolfannau darllen cyhoeddus mewn ysgolion yn Nhrelái, Llanisien, gogledd Llandaf a Rhymni at wasanaeth rhanbarthau a ddaeth dan awdurdod y ddinas wedi newid ffiniau. Yn 1925 darparwyd adran rhwymo papurau a chylchgronau a thrwsio ac adnewyddu llsgrau a llyfrau prin yn y Llyfrgell Ganol. Erbyn 1940 yr oedd adran fenthyg y Llyfrgell Ganol wedi ei had-drefnu'n llwyr. Pan drosglwyddwyd i'r Amgueddfa Genedlaethol gasgliadau Amgueddfa Caerdydd a gedwid cyn hynny ar lawr uchaf y Llyfrgell Ganol penderfynwyd defnyddio'r gofod yn 1923 i sefydlu ystafell ymchwil at wasanaeth darllenwyr casgliadau enfawr y llyfrgell o lawysgrifau, dogfennau a llyfrau cynnar prin. Bu'r ddarpariaeth hon ynghyd ag adeiladu ystafell gadarn a diogel rhag tân yn symbyliad i Feistr y Rholiau yn 1931 gydnabod Llyfrgell Ganol Caerdydd yn ystorfa swyddogol i gofnodion hanesyddol. Yr un pryd gweithredwyd yn eiddgar y polisi o neilltuo rhan o'r gronfa lyfrau i brynu llawysgrifau, dogfennau, printiau, a llyfrau prin. Rhestrodd N.R. Ker yn ei Medieval Manuscripts in British libraries (1992) 32 eitem werthfawr a bwrcaswyd gan y llyfrgell rhwng 1920 ac 1936. Sicrhaodd Farr hefyd gymwynaswyr i roi eitemau neu gyfrannu arian i brynu casgliadau gwerthfawr. Felly y cafwyd llawysgrifau Havod gydag arian a roddwyd gan Edgar Evans o Drelái yn 1918.

Farr a'i staff biau'r clod am drefnu Gwyliau Llyfrau Cymru a gynhelid yn neuadd y ddinas bob blwyddyn adeg Gŵyl Ddewi o 1930 i 1939. Arddangosid cynhyrchion cyhoeddwyr Cymreig a llyfrau a llawysgrifau o gasgliadau Cymreig y llyfrgell yn ogystal ag eitemau gwerthfawr a fenthycid o lyfrgelloedd a chan gasglwyr preifat. Cymerid agwedd wahanol o fywyd a llên Cymru fel thema bob blwyddyn, a bu'r catalogau a ddarperid yn offeryn i ddwyn i sylw gyfoeth yr etifeddiaeth Gymreig.

Yn 1931 dechreuodd wasanaeth llyfrgell i ysbytai'r ddinas, a'r flwyddyn ddilynol daeth Cynllun Taleithiol Llyfrgelloedd Cymru i rym ond mynnodd pwyllgor taleithiol Morgannwg a Mynwy, yn groes i farn Farr a'i bwyllgor, gael sefydlu canolfan daleithiol dros Sir Forgannwg a sir Fynwy yng Nghaerdydd, trefniant a feirniadwyd yn llym mewn adroddiadau diweddarach. Trefnodd Farr ddarlithiau cyhoeddus yn y Llyfrgell Ganol ac arddangosfeydd llyfrau, e.e. Beiblau yn 1911, llyfrau printiedig cynnar yn 1913, a gweithiau Shakespeare yn 1923. Cyhoeddwyd catalogau gwerthfawr i bob un ohonynt.

Yr oedd Harry Farr yn enw adnabyddus iawn ym myd llyfrgellyddiaeth. Daeth yn F.L.A. yn 1910 a gwasanaethodd ar gyngor Cymdeithas y Llyfrgelloedd. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a phamffledi ar wahanol agweddau'r alwedigaeth, e.e. Libraries in rural districts, 1909, a Library work with children, 1910. Cydnabyddid ef yn llyfryddwr o fri ac yn awdurdod ar lyfrau printiedig cynnar, ar wahanol argraffiadau o weithiau Shakespeare, ac ar gynhyrchion gweisg preifat. Yr oedd ganddo feddwl craff a bywiog, ac nid ofnai arbrofi. Dyfeisiodd gyfundrefn ddegol a ddefnyddiwyd hyd yn ddiweddar yn y llyfrgell, ond yr oedd iddi anfanteision amlwg yn nyddiau catalogio canolog, a bu'n rhaid rhoi'r gorau iddi. Pan ymddeolodd yn 1940 cyfrifid gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd yn un o'r rhai gorau yn y deyrnas a'r Llyfrgell Ganol yn un o lyfrgelloedd bwrdeistrefol mawr Prydain. Defnyddid yr adran gyfeirio, a oedd ar agor bob nos tan naw o'r gloch, gan filoedd o ddarllenwyr y tu hwnt i derfynau'r ddinas, a diwallodd ei chasgliadau Cymreig ofynion myfyrwyr drwy Gymru gyfan.

Priododd yn 1913 ag Elsie Olive Davies, aelod o'i staff; bu hi farw o'i flaen; ganwyd iddynt bump o blant, tri mab a dwy ferch. Bu farw 19 Ionawr 1968.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.