GEORGE, WILLIAM (1865 - 1967), cyfreithiwr a gwr cyhoeddus

Enw: William George
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1967
Priod: Anita George (née Williams)
Rhiant: Elisabeth George (née Lloyd)
Rhiant: William George
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a gwr cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: William Richard Philip George

Ganwyd yn Highgate, Llanystumdwy, Caernarfon, 23 Chwefror 1865 yn blentyn ifancaf William George, ysgolfeistr (bu farw 7 Mehefin 1864) a'i wraig Elisabeth (ganwyd Lloyd, 1828 - 1896), ac yn frawd i David Lloyd George, a Mary Elin. Bu ei dad farw cyn ei eni a bu dylanwad ei ewythr frawd ei fam, Richard Lloyd (1834 - 1917), yn ddylanwad llywodraethol yn ffurfiad ei gymeriad ac yn ei agwedd tuag at y byd a'i bethau. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol Llanystumdwy ond gwrthododd ei ewythr a'i fam iddo fynd yn ddisgybl-athro. Symudodd y teulu i Gricieth yn 1880. Derbyniwyd William George i erthyglau yn 1882 a llwyddodd yn ei arholiad terfynol gydag anrhydedd ac yn bedwerydd yn y dosbarth cyntaf, cryn gamp i un na chawsai addysg coleg nac ysgol uwchradd. Ymunodd â'i frawd yn y busnes cyfreithwyr a sefydlwyd ganddo yn 1885 yng Nghricieth a daeth y bartneriaeth Lloyd George & George i'r amlwg pan enillwyd achos 'Mynwent Llanfrothen' yn y Llys Apél, 15 Rhagfyr 1888. Pan etholwyd David Lloyd George i'r senedd yn 1890 ni thelid cyflog i aelodau seneddol a chydsyniodd William i'w frawd ymroi bron yn llwyr i'w weithgarwch gwleidyddol gan dynnu incwm o'r bartneriaeth am flynyddoedd lawer. William hefyd a sefydlodd gartref i'w fam, ewythr Richard, ei chwaer ac ef ei hun gan roi heibio dros dro bob syniad am briodi er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn. Terfynwyd dibyniaeth David ar y bartneriaeth pan benodwyd ef yn Llywydd y Bwrdd Masnach, Rhagfyr 1905, a rhyddhawyd William i roi rhagor o'i amser i waith cyhoeddus.

Etholwyd ef gyntaf i gyngor sir Caernarfon yn 1907 a bu'n aelod hyd 1967, ac yn gadeirydd yn 1911. Bu'n gadeirydd pwyllgor addysg y sir 1916-48, ac fel cadeirydd Bwrdd Canol Cymru ac arweinydd ym myd addysg Cymru cafodd gyfle i roi mewn gweithrediad rai o'r polisïau y credai ynddynt er mwyn ceisio diogelu iaith a chrefydd Cymru. Yr oedd o flaen ei oes yn sicrhau safle'r Gymraeg mewn deddfwriaeth a gweinyddiaeth gyhoeddus, a chyfieithodd Ddeddf Yswiriol 1911 i'r Gymraeg a'i chyhoeddi'n llyfryn gydag atodiad o restr o dermau cyfraith Cymraeg. Bu'n gadeirydd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg a sefydlwyd yn 1913, ac yn ystod ei gadeiryddiaeth y trefnwyd y ddeiseb genedlaethol (1938) i geisio sicrhau statws briodol i'r iaith yn y llysoedd, ymgyrch a arweiniodd at y Welsh Courts Act 1942. Gwnaeth lawer i hybu cydweithio rhwng cynghorau sir Cymru, yn arbennig mewn addysg, a chredai'n gryf mewn sefydlu cyngor addysg cenedlaethol dros Gymru. Yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth a ymwelodd â'r Gweinidog Addysg i geisio cefnogaeth i'r polisi yn 1920. Ef hefyd, fel Cadeirydd y Bwrdd Canol, a gyflwynodd yr awgrym fod dau ddisgybl ysgol uwchradd o bob sir yn treulio wythnos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn westeion cronfa a godwyd wrth werthu swyddfeydd y Bwrdd Canol yn 1944.

Bu'n gyfreithiwr myg. llys a chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol o 1937 hyd 1956, gweithiodd yn ddygn i uno Gorsedd y Beirdd a Chymdeithas yr Eisteddfod ac etholwyd ef yn Gymrawd yn 1956. Cyhoeddodd hefyd ddeunydd i blant, Llyfr y cyfarfod plant (1908). Derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1947 a chyflwynwyd cyfarchiad ar femrwn iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei ben-blwydd yn gant. Bu'n aelod yn eglwys Pen-y-maes (B.Alb., Disgyblion Crist) a Berea (B) Cricieth, a chyflwynwyd iddo fedal Gee.

Fe'i breintiwyd ag ymennydd o'r radd flaenaf ac â dawn i'w fynegi'i hun yn gryno a dibetrus. Heb ei hunanymwadiad a'i fedr fel cyfreithiwr anodd dirnad sut y gallasai David Lloyd George fod wedi datblygu'n wleidydd proffesiynol mor gynnar yn ei yrfa. Dengys y llythyrau rhyngddynt fod David yn rhoi pwys mawr ar farn William ar bynciau'r dydd ac adlewyrchir y farn honno yn ei areithiau. Cyhoeddodd My Brother and I (1958), Atgof a myfyr (1948) a Richard Lloyd (1934). Priododd Anita Williams o Abergwaun yn 1910; bu hi farw 1943. Bu iddynt feibion - efeillion, bu farw un yn ei fabandod. Bu farw yng Nghricieth 25 Ionawr 1967 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Cricieth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.