Ganwyd yn Neiniolen, Caernarfon, 2 Tachwedd 1895, yn fab i David a Mary Jones, aelodau o gapel Ebeneser (A). Yn ei ieuenctid dylanwadwyd yn drwm arno gan weinidogion yr eglwys honno, J. Dyfnallt Owen ac E. Wyn Jones. Pan symudodd y teulu i Lerpwl, ymunodd ef ag eglwys Saesneg Great George St. Yn ystod Rhyfel Byd I treuliodd ddwy flynedd a hanner yn Salonica, 1916-19. Wedi hynny dechreuodd bregethu a bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Manceinion a choleg diwinyddol sir Gaerhirfryn, 1919-24. Ordeiniwyd ef yn eglwys Freemantle, Southampton ym mis Gorffennaf 1924. Bu yno hyd 1936 yn weithgar iawn gyda'r Eglwysi Rhyddion ac yn ysgrifennu i'r wasg ar ben ei waith yn ei eglwys. O 1936-51 bu'n weinidog ar eglwys newydd Emmanuel, West Wickham, ac yn y cyfnod hwnnw daeth i amlygrwydd yn Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru ac ar Fwrdd y London Missionary Society. Etholwyd ef i gadair Undeb Cynulleidfaol Llundain yn 1949. O 1951-61 bu'n gymedrolwr eglwysi Cynulleidfaol Cymru a daeth i gysylltiad agos â mudiadau crefyddol yng Nghymru. Yr un pryd ef oedd cadeirydd pwyllgor cynnal y weinidogaeth o dan yr Undeb Saesneg yn Lloegr. Etholwyd ef yn gadeirydd yr Undeb Saesneg yn 1958, y trydydd Cymro yn gwasanaethu yng Nghymru i'w anrhydeddu felly, a thraddododd araith ar ' The Churches - their witness in the community '. Bu'n llywio'r trafodaethau a arweiniodd at uno Coleg Coffa Aberhonddu ac adran Annibynnol y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, ac ef oedd cadeirydd cyntaf y Coleg Coffa yn Abertawe.
Gwr byr o gorffolaeth gyda meddwl byw a diddordebau eang ydoedd. Yr oedd yn bregethwr cryf, yn drefnydd gofalus, ac yn gadeirydd meistrolgar. Priododd Annie Kathleen Speakman, 10 Medi 1925, a bu iddynt fab a merch. Bu farw 10 Gorffennaf 1961 ar ôl blwyddyn o waeledd.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.